Mae’r Awstraliaid Marnus Labuschagne a Michael Neser wedi’u cynnwys yng ngharfan griced Morgannwg am y tro cyntaf y tymor hwn, wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Durham i Gaerdydd.

Bydd y sir Gymreig yn gobeithio adeiladu ar y gêm gyfartal gawson nhw yn erbyn Swydd Gaerloyw yng ngêm Bencampwriaeth gynta’r tymor, gyda Billy Root a Kiran Carlson yn taro canred yr un.

Mae’r batiwr Marnus Labuschagne wedi sgorio 1,719 o rediadau ar gyfartaledd o 52 yn ei 21 gêm yng nghrys Morgannwg hyd yn hyn.

Mae disgwyl i’r bowliwr cyflym Michael Neser arwain yr uned fowlio, ac yntau wedi cipio 60 wiced mewn 21 o gemau i’r sir.

Mae Morgannwg yn seithfed yn ail adran y Bencampwriaeth, gyda deuddeg o bwyntiau yn eu gêm agoriadol, tra bod Durham yn ail ar ôl curo Swydd Gaerwrangon.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg wedi cael bron i bythefnos o seibiant ers gêm gynta’r tymor, tra bod Durham wedi colli’r gêm gyntaf o ddwy wiced yn erbyn Sussex cyn trechu Swydd Gaerwrangon o 121 o rediadau yn eu hail gêm.

Gorffennodd Morgannwg a Durham yn gyfartal yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, wrth i Alex Lees gario’i fat i’r ymwelwyr wrth sgorio 182 heb fod allan, tra bod Colin Ingram wedi sgorio 87 a Chris Cooke 85 heb fod allan i Forgannwg.

Yn 2018, enillodd Durham o fatiad o fewn tridiau wrth i Chris Rushworth gipio pum wiced am 28 wrth fowlio Morgannwg allan am 111 yn eu hail fatiad.

Enillodd Durham o 58 rhediad yn Chester-le-Street y tymor diwethaf.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Durham yn y Bencampwriaeth ers 2017, pan gwrsodd Morgannwg 266 mewn 51 o belawdau ar ôl i Durham gau’r batiad i sicrhau diweddglo cyffrous yn San Helen.

Tarodd Nick Selman ganred i gipio’r fuddugoliaeth i Forgannwg.

‘Ail gartref’

“Mae’n braf iawn cael bod yn ôl yn fy ail gartref,” meddai Marnus Labuschagne.

“Dyma fy mhedwaredd flwyddyn yma, ac mae hi bob amser yn braf cael dod yn ôl.

“Mae gyda fi gynifer o atgofion, a sawl cyfeillgarwch a pherthynas â phobol yma.

“Mae’n braf cael bod yn ôl allan yn ymarfer!

“Mae pedair wythnos ers India, a’r ergydion cyntaf ar y glaswellt ers tua phedair wythnos, felly mae wedi bod yn braf.

Fel bob tro dw i’n dod yma, dw i’n canolbwyntio’n llwyr ar ennill gemau i Forgannwg mewn unrhyw ffordd alla i.”

Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, S Northeast, A Salter, H Podmore, M Neser, M Labuschagne, J McIlroy, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten), D Douthwaite, E Byrom

Carfan Durham: D Bedingham, S Borthwick (capten), B Carse, G Clark, P Coughlin, L Trevaskis, M Jones, M Kuhnemann, A Lees, B McKinney, M Potts, B Raine, O Robinson

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2023-1347098/glamorgan-vs-durham-1347158/full-scorecard