Mae tîm pêl-droed Wrecsam wedi torri’r record ar gyfer y nifer fwyaf erioed o bwyntiau mewn un tymor yn y Gynghrair Genedlaethol.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw sgorio tair gôl yn yr ail hanner yn erbyn Yeovil ar y Cae Ras neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 18) i ennill o 3-0.

Mae ganddyn nhw 107 o bwyntiau, sy’n torri record Crawley yn 2010-11.

Sgoriodd Anthony Forde gôl gynta’i dîm ar ôl awr, gyda James Jones yn dyblu mantais ei dîm ar ôl 72 munud, cyn i Paul Mullin rwydo’r drydedd bedair munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn gweld Yeovil yn gostwng o’r Gynghrair Genedlaethol.

Byddai un fuddugoliaeth arall yn ddigon i Wrecsam ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed, ac i Gymru gael pedwar tîm yn y Gynghrair Bêl-droed eto am y tro cyntaf ers 1988.