Mae Marnus Labuschagne, batiwr tîm criced Morgannwg, wedi’i ddewis yng ngharfan Awstralia ar gyfer dwy gêm gyntaf Cyfres y Lludw haf yma.

Bydd yn rhaid i’r bowliwr cyflym Michael Neser aros tan ail hanner y gyfres am ei gyfle yntau, sy’n golygu bod ansicrwydd ar hyn o bryd am ba hyd fydd e gyda’r sir y tymor hwn.

Mae Awstralia wedi cyhoeddi’r garfan ar gyfer rownd derfynol Pencampwriaeth Profion y Byd a dwy gêm gynta’r Lludw yn unig.

Ymhlith y batwyr agoriadol sydd wedi’u dewis mae un arall o gyn-chwaraewyr Morgannwg, Usman Khawaja, ochr yn ochr â Marcus Harris, oedd wedi sgorio canred a hanner canred i Swydd Gaerloyw yn erbyn Morgannwg yn y Bencampwriaeth yn ddiweddar, a Matt Renshaw.

Bydd Cyfres y Lludw’n dechrau gyda gemau yn Edgbaston a Lord’s, cyn symud i Headingley, Old Trafford a’r Oval.

Carfan Awstralia: P Cummins (capten), S Boland, A Carey, C Green, M Harris, J Hazlewood, T Head, J Inglis, U Khawaja, M Labuschagne, N Lyon, M Marsh, T Murphy, M Renshaw, S Smith, M Starc, D Warner.