Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ailbenodi Dr Ian Mitchell yn Bennaeth Seicoleg Perfformio.
Mae’n dychwelyd ar ôl bod yn gweithio gyda’r gymdeithas adeg Ewro 2016, pan gyrhaeddodd tîm Chris Coleman y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc.
Fe fu hefyd yn gweithio gydag Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr, a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr am bum mlynedd.
Yn ei rôl newydd gyda Chymru, bydd yn gweithio gyda thimau’r dynion a’r menywod drwyddi draw.
“Rydym wrth ein boddau o gael cyhoeddi Dr Ian Mitchell fel ein Pennaeth Seicoleg Perfformio,” meddai Rob Page, rheolwr tîm dynion Cymru.
“Mae’r penodiad yn adlewyrchu uchelgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau ein bod ni’n darparu’r safonau gorau posib er mwyn cefnogi llwyddiant timau cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.
“Mae gan Ian brofiad helaeth o weithio gyda phêl-droedwyr elit, yn gyntaf wrth gyflawni’r rôl hon yn dilyn cyfnod estynedig o waith fel academydd cydnabyddedig ym maes seicoleg, a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â fe.”
‘Braint ac anrhydedd’
Dywed Dr Ian Mitchell ei bod hi’n “fraint ac yn anrhydedd” cael ei benodi i’r swydd.
“Roedd 2016 yn anhygoel, roedd yn griw arbennig o chwaraewyr a staff gydag amgylchfyd cryf ar y cae ac oddi arno yn nhermau diwylliant perfformiad uwch,” meddai.
“Mae’n brofiad dw i’n gobeithio’i gael eto gyda’r drefn bresennol.
“Mae Cymru’n wlad mor unigryw â diwylliant gwych a synnwyr go iawn o berthyn a hunaniaeth.
“Alla i ddim aros i gael dechrau eto.”