Mae’r maswr Ioan Lloyd wedi ymuno â’r Scarlets o Fryste.
Bydd y chwaraewr 22 oed yn dychwelyd i Gymru ar ôl pedair blynedd yn ne-orllewin Lloegr.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf, roedd yn aelod o dimau ieuenctid Gleision Caerdydd cyn symud i Goleg Clifton ac yna i Fryste.
Fe oedd y chwaraewr ieuengaf yn hanes Bryste i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, gan sgorio cais oddi ar y fainc yn 18 oed mewn gêm ddarbi yn erbyn Caerfaddon.
Chwaraeodd e dros Gymru dan 18 a than 20 cyn ennill dau gap fel eilydd i’r prif dîm cenedlaethol ym Mharc y Scarlets yn 2020.
Yn y cyfamser, mae’r bachwr Ryan Elias wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r Scarlets.
‘Penderfyniad anodd iawn’
Yn ôl Ioan Lloyd, roedd y penderfyniad i adael Bryste yn un “anodd iawn”.
“Dw i wedi cael pedair blynedd arbennig yn y clwb, a dw i’n gadael ar ôl gwneud ffrindiau da iawn,” meddai.
“Ond ar ôl eistedd sawl gwaith gyda Dwayne [Peel], dw i’n teimlo bod symud i’r Scarlets yn beth da iawn o ran rygbi i fi, ac y bydd yn fy helpu i ddatblygu ymhellach fel chwaraewr.
“Dw i’n teimlo y bydd cynllun chwarae’r Scarlets yn addas ar gyfer fy ffordd o chwarae, a dw i wedi cyffroi o gael bwrw iddi y tymor nesaf.”
‘Chwaraewr o safon uchel’
“Mae Ioan yn chwaraewr o safon uchel, sydd â thalent enfawr,” meddai Dwayne Peel, prif hyfforddwr y Scarlets.
“Mae e’n chwaraewr pêl sydd â’r gallu i dorri’r llinell a herio amddiffynfeydd.
“Mae e’n chwaraewr rydyn ni’n teimlo y bydd e’n ffitio’n dda gyda’r ffordd rydyn ni’n ceisio chwarae yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu yn yr haf.
“Mae e’n ddyn ifanc ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei weld e’n tyfu yng nghrys y Scarlets.”