Mae Jac Morgan wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r Gweilch.

Yn 23 oed, mae’r chwaraewr rheng ôl wedi dod yn aelod gwerthfawr o garfan y rhanbarth, gan chwarae 26 o gemau iddyn nhw hyd yn hyn, ac mae e bellach yn sefydlu’i hun yn aelod o garfan Cymru hefyd, gan ennill naw cap hyd yn hyn.

Ond mae e allan ar hyn o bryd ag anaf i’w ffêr.

Yn ôl y Gweilch, mae ei ymrwymiad iddyn nhw’n “neges glir am ymrwymiad y Gweilch i feithrin talent ifanc ac adeiladu tîm cryf ar gyfer y presennol a’r dyfodol”.

“Dw i wedi wedi mwynhau chwarae i’r Gweilch, a dw i wrth fy modd o gael ymestyn fy nghytundeb gyda nhw,” meddai’r chwaraewr.

“Dw i’n teimlo fy mod i wedi datblygu fel chwaraewr yn ystod fy amser yma, a dw i wedi cyffroi o gael gweld beth allwn ni ei gyflawni fel tîm yn y dyfodol.

“Fel carfan, mae gyda ni gymysgedd gwych o chwaraewyr profiadol a thalent ifanc, cyffrous.

“O’r staff hyfforddi i’r chwaraewyr, mae pawb yma’n herio’u hunain i fod y gorau gallan nhw.”

Yn ôl y prif hyfforddwr Toby Booth, mae Jac Morgan yn “ymgorfforiad” o’r hyn mae’r rhanbarth yn chwilio amdano yn eu chwaraewyr.