- Bu farw Duncan Edwards union 65 o flynyddoedd yn ôl, ar Chwefror 21, 1958.
“Crasiodd yr awyren ar 6 Chwefror 1958 ond fe gymerodd ddwy wythnos arall iddo fe farw.”
Dyma rai o’r geiriau ingol sy’n ymddangos yng ngwaith Gayle Rogers, arlunydd yn y Rhondda. Mae rheolwr Oriel y Gweithwyr yn Ynyshir ger y Porth yn perthyn i Duncan Edwards, un o wyth o ‘Busby Babes’ Clwb Pêl-droed Manchester United gafodd eu lladd yn sgil Trychineb Awyr Munich 65 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd tîm Manchester United newydd fod yn herio Red Star Belgrade yn ninas Belgrade yn yr hen Iwgoslafia, ac wedi ennill y gêm i gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Ewrop. Roedden nhw wedi glanio yn yr Almaen, yng nghanol eira trwm ac amodau llithrig ar y llain lanio, i gasglu tanwydd ar gyfer ail ran y daith yn ôl i Fanceinion. Tarodd yr awyren yr eira, gan blymio drwy ffens ar ddiwedd y llain lanio a bwrw un o’r cartrefi cyfagos cyn mynd ar dân. Bu farw 23 o bobol i gyd – ugain ohonyn nhw ar unwaith, a thri arall yn ddiweddarach o ganlyniad i’w hanafiadau.
Ymhlith y tri hynny roedd Duncan Edwards. Gan dynnu ar waith haneswyr a newyddiadurwyr chwaraeon, mae Gayle Rogers yn sicrhau trwy ei gwaith celf fod atgofion llai adnabyddus am ei pherthynas yn fyw hyd heddiw.
Mae’n arwyddocaol fod ei gwaith sy’n dathlu ei pherthynas ac yn coffau’r trychineb awyr yn benthyg geiriau un o frodorion yr ardal, sef Jimmy Murphy, oedd yn is-reolwr i Matt Busby. Trwy lwc, doedd Jimmy Murphy, is-reolwr Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1958, ddim ar yr awyren oedd yn teithio nôl o Ewrop i Fanceinion, gan fod gan Gymru gêm yr un pryd.
“Pe na bai [Cymru] wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn 1958, byddai Jimmy wedi bod ar yr awyren, felly dw i wedi dweud erioed fod bod yn Gymro, fwy na thebyg, wedi achub ei fywyd,” meddai Gayle Rogers wrth Golwg. “Byddai fwy na thebyg wedi bod yn eistedd yn ymyl Matt Busby, gafodd ei anafu’n wael iawn, a bu farw’r person oedd yn eistedd yn ei ymyl yn y trychineb…
“Goroesodd Duncan am bythefnos ac roedd gobaith y byddai’n byw, gan ei fod e mor fawr ac mor gryf, ac roedd e’n gymeriad mor gryf hefyd. Pan aeth Jimmy i’w weld e, roedd ei organau’n methu ac fe sylweddolodd e, hyd yn oed pe bai e wedi goroesi, na fyddai e wedi gallu chwarae pêl-droed eto.
“Roedd [Jimmy Murphy] hefyd yn siarad am Duncan fel y golled fwyaf i’r tîm, sydd braidd yn annheg i’r bois eraill fu farw. Dw i wastad wedi ceisio tawelu hynny. Ac mae gan gofeb Duncan yn Dudley ddyfyniad gan Jimmy, sef ‘y pêl-droediwr mwyaf cyflawn dw i wedi’i weld’. Felly mae’r cyswllt rhwng y ddau yn gryf iawn, a byddai’n siarad amdano fe’n angerddol ac yn llawn cariad, a dw i’n meddwl bod yna gariad gwirioneddol at yr holl ddynion o’r adeg honno oedd â’r byd wrth eu traed.”
Yn wir, sgwrs rhwng Edwards a Murphy yn ystod un o nifer o ymweliadau â’r ysbyty arweiniodd at y geiriau enwog sy’n benthyg eu hunain i’w gwaith, yn ôl Gayle Rogers.
“Roedd Duncan i mewn ac allan o fod yn anymwybodol, ac un o’r pethau wnaeth e ofyn i Jimmy oedd faint o’r gloch oedd cic gynta’r gêm oedd am ddigwydd jyst ar ôl y gwrthdrawiad. Defnyddiais i’r teitl yna wedyn i siarad am gofio Duncan Edwards a Thrychineb Awyr Munich.”
Canlyniad hyn oll yw What Time’s Kick-off?, arddangosfa i nodi 65 mlynedd ers Trychineb Awyr Munich a marwolaeth Duncan Edwards, sydd ar y gweill yn Oriel Ynyshir hyd at 8 Chwefror, ac sy’n seiliedig ar atgofion y teulu ac ymchwil. Mae hi’n archwilio’r pwnc drwy’r hyn mae’n eu galw’n ddarluniau ‘gwaith ar y gweill’, sef darluniau sy’n gallu cael eu troi’n bamffledi neu’n gomics. Mae modd gweld y gwaith hwn bob awr o’r dydd o’r tu allan i’r oriel. Daw hynny ar ôl arddangosfa arall fis Chwefror y llynedd, ‘Who’s That Dying on the Runway?’.
Atgofion pobol eraill yn sail i stori
Er ei bod hithau wedi’i geni ddeng mlynedd wedi’r trychineb, dywed Gayle Rogers fod Duncan Edwards wedi chwarae rhan bwysig yn ei bywyd erioed, gyda’i mam yn cofio’i chefnder yn iawn ond byth yn siarad amdano.
“Adeg ei farwolaeth, doedd hyd yn oed mynd i’r angladd ddim yn rhywbeth fyddai dynes wedi’i wneud. Roedd ei thad-cu, oedd yn löwr o Gymru, wedi marw o ganlyniad i gymhlethdodau’n ymwneud â’i waith a doedd dim dyn i gynrychioli’r teulu, felly aeth ewythr oedd yn perthyn o bell i’r angladd. Wnaeth [mam] ddim wir adrodd straeon ynghylch sut beth oedd cael ei magu gyda Duncan, a sut ddyn oedd e mewn gwirionedd. Ro’n i’n meddwl bod hynny wir yn ddiddorol, oherwydd mae pwy yw e yn cael ei ddiffinio i raddau helaeth iawn gan y rhai sy’n siarad yn agored amdano fe. Mae llawer iawn o chwedlau a straeon, a bydd llyfr newydd yn dod allan amdano fe ymhen rhai wythnosau gan fod 65 mlynedd wedi mynd ers y drychineb ym mis Chwefror.
“Felly ro’n i eisiau cyfweld â phobol i ddarganfod sut un oedd Duncan mewn gwirionedd. Wnes i ddarganfod pethau fel sut y byddai’n troi i fyny ar ddydd Sul a byddai mam a’i brodyr yn casau’r peth achos roedd e’n ddyn mor fawr fel y byddai’n bwyta’r holl fara menyn yn y gegin! Byddai’n rhaid iddyn nhw ymladd ag e. Ac roedd e’n hoff iawn o finegr i ddipio’i fara. Roedd fy Wncwl Colin yn dweud ei fod e’n dda iawn am chwarae pêl-droed ond yn ofnadw am chwarae criced, a’i fod e wedi colli’i dymer un diwrnod ac wedi chwalu bat criced fy Wncwl Colin. Felly ces i fy arwain drwy atgofion plentyndod i siarad â rhagor o bobol, gan ofyn iddyn nhw am gariad a cholled, achos dyna yw e.”
Arweiniodd hynny at gydweithio â’r newyddiadurwr Roy Cavanagh ar Roy’s Memories. Cydweithiodd y ddau i greu stori am Drychineb Awyr Munich drwy lygaid bachgen deg oed yn Salford, sy’n gweld pennawd newyddion ar arwydd y tu allan i siop yn y dref lle roedd llawer iawn o’r chwaraewyr yn byw, ac yn methu mynd i wylio’i hoff dîm am gryn amser wedyn oherwydd ei alar.
Mae gan lawer sy’n cofio’r drychineb straeon digon tebyg, ond sut mae Gayle Rogers wedi ymdopi â gorfod “rhannu” ei pherthynas â’r byd a’r betws ar hyd y blynyddoedd? Dywed fod y profiad wedi arwain at lawer o ddigwyddiadau rhyfedd yn ei bywyd.
“Pan fydden ni’n mynd at fedd fy nhad-cu Cymreig i osod blodau, bydden ni’n cerdded i fyny at fedd Duncan hefyd, a rhoi blodau arno. Felly roedd e wedi bod yn rhan o’r teulu erioed, er ei fod e wedi marw. A dw i’n meddwl, yn fy arddegau, ges i sioc o weld yr holl deyrngedau a blodau fyddai’n cael eu gadael gan ddieithriaid. Am wn i, ro’n i braidd yn ddig fod pobol yn rhoi pethau ar fedd fy mherthynas er nad oedden nhw’n ei nabod e. Ac o’r oedran ifanc hwnnw y dechreuodd fy niddordeb mewn pam fod pobol yn cofio’r meirw.
“Dw i’n gweithio ar stori ar hyn o bryd. Es i i gynhadledd yn Oslo yn 2011. Maen nhw’n angerddol iawn, iawn yno am bêl-droed ym Mhrydain. Ar ôl i fi wneud cyflwyniad, daeth un dyn ata i â phâr o siswrn ac roedd e eisiau rhywfaint o DNA Duncan ac fe fyddai’n gwneud hynny drwy gael darn o ‘ngwallt i! Drwy lwc, roedd dau ddyn o Norwy yno i’w dywys e oddi yno. Dw i’n cael pobol yn troi i fyny eisiau tynnu eu llun gyda fi, ac yn gofyn i fi gymeradwyo pethau, ond dw i byth yn gwneud hynny fel aelod o’r teulu.
“Mae’n rhyfedd, unwaith rydych chi’n rhoi eich hun allan yno yn gwneud hyn, rydych chi’n cael y cyfan – o eiliadau tyner i eiliadau obsesiynol!”
Ymchwilio i Drychineb Awyr Munich
Datblygodd diddordeb Gayle Rogers yn hanes Duncan Edwards gymaint nes ei bod hi wedi penderfynu astudio Trychineb Awyr Munich gyda’r Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Lloegr a Phrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, a chael ysgoloriaeth i gwblhau’r ymchwil, gan ennill Doethuriaeth yn 2017.
A hithau wedi methu gweithio nac agor ei horiel yn ystod y pandemig Covid-19, datblygodd ei sgiliau darlunio naratif a digidol. Ar yr un pryd, ysgrifennodd hi bennod ar gyfer y gyfrol Football and Popular Culture: Singing Out from The Stands (Routledge, 2021). Pan gwblhaodd hi’r gwaith, enillodd hi ragor o arian er mwyn ceisio cyflwyno’i hymchwil mewn fformat mwy hygyrch y tu allan i’r byd academaidd, a throi’r gwaith yn nofel graffig oedd yn ceisio bodloni ei chwilfrydedd ynghylch cofio’r meirw. Mae cael atgofion pobol sy’n cofio Trychineb Awyr Munich a Duncan Edwards yn allweddol yn hynny o beth, meddai.
“Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw oedd yn nabod Duncan ac wedi cwrdd â fe yn eu 80au a’u 90au erbyn hyn. Felly mae’n hanfodol dal eu straeon nhw nawr, felly dyna dw i’n awyddus iawn i’w wneud. Mae gen i lawer iawn o straeon gan ddynion, ond does dim llawer iawn gan fenywod. Ond dw i’n casglu straeon gan ferched am y dynion yma.
“Mae dynes o’r enw Catherine sy’n cofio’i thad yn crïo yn yr ystafell ffrynt gan ei fod e newydd glywed y newyddion ar y radio. Casglu straeon gan yr ail genhedlaeth yw llawer iawn ohono fe, a dyna ydw i. Mae’r genhedlaeth gyntaf wedi trosglwyddo pwysigrwydd casglu straeon gwir, go-iawn, i’r ail genhedlaeth felly mae gennych chi eu hatgofion nhw a fersiynau o’u hatgofion, sy’n golygu dwywaith y pwysau i drosglwyddo hynny ar ran y bobol sydd wedi mynd. Mae hi bron yn 65 mlynedd nawr, felly mae angen i fi gael cynifer o bobol â phosib i ddweud y gwir wrtha i, neu yr hyn yw’r gwir iddyn nhw. Bydd chwedlau o hyd. Mae un chwedl am Duncan yn cael cytundeb ar fore ei ben-blwydd yn 16 oed, ond doedd hynny ddim yn wir. Mae llawer o chwedlau amdano fe, ond mae’r gwirionedd sy’n cael ei orddweud weithiau’n well na’r gwirionedd go-iawn!”
Cymru a Chwpan y Byd – darlun bob dydd
I ddathlu ei chysylltiadau Cymreig a champ tîm pêl-droed Cymru wrth gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, penderfynodd Gayle Rogers fynd ati, “yn optimistaidd”, i greu darlun bob dydd tan bod Cymru, dan reolaeth Rob Page o Gwm Rhondda, yn ennill Cwpan y Byd.
“Wnes i bostio ar Twitter, ‘Pan fyddan nhw’n ennill, wna i roi’r gorau i ddarlunio’. Yn amlwg, rydyn ni’n gwybod na ddigwyddodd hynny, ac ar ôl gwneud 80 o ddarluniau, ro’n i’n eitha’ blinedig! Ond roedd yn lot fawr o hwyl. Fe lwyddais i i gynnwys tîm y merched, ro’n i’n darlunio Michael Sheen, fe wnes i lun o Michael Sheen yn dal bag o siwgr. A Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a defnyddiodd e hwnnw fel ei lun proffil am rai diwrnodau, oedd yn eitha’ doniol! Wnes i luniau o Bale, Gianni Infantino a’i araith ‘Dw i’n fewnfudwr, dw i’n fenyw’ a rhoi sylw i’r holl bethau gwleidyddol hefyd. Wnes i drio’i gadw’n eitha’ ysgafn. Ges i fy ariannu wedyn gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i gynnal gweithdai darlunio a gwneud comics gyda chlybiau ieuenctid lleol. Cawson ni arddangosfa Cymru a Chwpan y Byd yma, ac roedd pobol yn anfon eu darluniau a wnaethon ni ychwanegu atyn nhw yn ystod Cwpan y Byd i adeiladu cyffro. Wnes i gomic pedair tudalen yn International Wales, sy’n fanzine annibynnol am y tîm rhyngwladol, a hwnw’n sôn am Jimmy Murphy, gyda merch a’i mam-gu yn cerdded heibio’i gartref i weld y plac glas. A’r fam-gu yn egluro pwy yw Jimmy Murphy, a rhoi bois Jimmy Murphy yn eu cyd-destun.”
Boed yn dîm Cymru yng Nghwpan y Byd, boed yn Jimmy Murphy, boed yn Drychineb Awyr Munich, mae Gayle Rogers wedi tynnu sylw, trwy ei gweithiau celf, at bwysigrwydd gwaddol pêl-droed a chelf fel modd o gofnodi hanes.
“Mae gan yr amgueddfa bêl-droed ym Manceinion lawr cyfan. Efallai nad yw’r cyswllt yn amlwg, ond dw i’n meddwl am ddarlun Lowry, ‘Going to the Match’, a phethau mae pobol yn eu cael yn apelgar. Mae llawer o haneswyr chwaraeon yn defnyddio darluniau neu ffotograffau a dw i’n meddwl eu bod nhw’n dechrau sylweddoli bod gweithio gydag arlunwyr neu ddarlunwyr yn gallu creu ymchwil sy’n tynnu pobol i mewn yn fwy. Dw i ddim o gefndir academaidd, felly i fi, mae rhan o ddefnyddio celf i wneud ymchwil yn fwy hygyrch yn ymwneud â dweud wrth bobol fod hyn yn rywbeth maen nhw’n gallu ei wneud. Peidiwch diystyru’r peth. Mae rhai pobol wedi gwneud comig ar gyfer PhD! Mae rhoi lluniau yn eich PhD yn cael ei wfftio, ond wnes i lwyddo i wneud hynny. Mae mwy o arlunwyr nag erioed o’r blaen yn gwneud graddau Meistr a doethuriaethau erbyn hyn, felly mae chwaraeon a chelf yn dod yn nes at ei gilydd. Os ewch chi i amgueddfa, mae rhywun wedi dylunio’r crysau neu’r capiau. Mae’r cyswllt rhwng celf a chwaraeon yn gryfach nag y byddech chi’n ei ddychmygu.”
- Mae modd dilyn Gayle Rogers ar Twitter (@artgayle ac @1958Munich), ac Oriel y Gweithwyr (@wood4tt).