Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi gwledig.

Daw’r alwad yn dilyn ffigurau diweddar, ar ran y Glymblaid Dileu Tlodi Plant, sy’n dangos bod gan ranbarth gwledig canolbarth a gorllewin Cymru un o’r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y wlad.