Mae uwch-gynghorwyr yng Ngheredigion wedi mabwysiadu polisi sirol ar y Cod Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb dadleuol.

Mae’r Cod Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb gorfodol gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi ysgolion i ddylunio’u gwersi eu hunain er mwyn addysgu plant am berthnasoedd, hawliau a chydraddoldeb, rhywedd a rhywioldeb, cyrff a delweddau’r corff, iechyd a lles rhywiol, trais, diogelwch a chefnogaeth.

Mae’n amlinellu tri chyfnod addysgu sy’n briodol yn ôl oedran, ac sy’n rhannol gysylltiedig ag oedran: o dair oed, o saith oed ac o unarddeg oed.

Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun yn dadlau ei fod yn amlygu themâu LHDTC+ ac yn anwybyddu materion a bywyd teuluol traddodiadol.

Mae Polisi Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb Ceredigion wedi’i ysgrifennu’n unol â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, y Cod Perthnasoedd a Rhywioldeb, a chrynodeb deddfwriaethol i ysgolion a darpariaethau addysg yng Ngheredigion.

Adroddiad

“Daeth Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn elfen statudol o Gwricwlwm Cymru ar gyfer pob ysgol gynradd a’r ysgolion uwchradd hynny sydd wedi ymrwymo i ddechrau ar y cwricwlwm newydd o fis Medi 2022,” meddai adroddiad ar gyfer aelodau.

“Bydd hwn yn ddull graddol ar gyfer ysgolion uwchradd, gan ddechrau gyda Blwyddyn 7.

“I rai, mae Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn bwnc sensitif.

“Mae grŵp o’r enw Public Child Protection Wales wedi herio Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb a chafodd adolygiad barnwrol ei gynnal ar Dachwedd 15, 2022.

“Ar Ragfyr 22, 2022, fe wnaeth y llys gefnogi Llywodraeth Cymru ar bob cyfrif.”

“Mae Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn anelu i rymuso dysgwyr yn unol â’u hanghenion, eu profiadau a’u datblygiad ehangach.

“Trwy drafod ac ymateb i gwestiynau ac anghenion dysgwyr, gall ddarparu amgylcheddau diogel a grymus sy’n galluogi dysgwyr i fyfyrio ac i fynegi eu safbwyntiau a’u teimladau ar ystod o faterion, a sicrhau ar yr un pryd fod y cynnwys yn briodol o ran datblygiad.

“Dylid cefnogi dysgu ac addysgu Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb drwy ddull ysgol gyfan i Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, ac mae hyn yn hanfodol wrth gefnogi lles dysgwyr.

“Mae hyn yn golygu cysylltu pob agwedd ar yr ysgol yn effeithiol, gan gynnwys y cwricwlwm, polisïau, staff, amgylchedd yr ysgol a’r gymuned i gefnogi dysgwyr yn eu haddysg perthnasoedd a rhywioldeb.

“Dylai ysgolion a lleoliadau [addysg] drafod Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yng nghyd-destun hawliau plant sydd wedi’u gwarchod gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.

“Dylid ymgorffori dull sy’n seiliedig ar hawliau ac sydd wedi’i gefnogi gan gydraddoldeb mewn addysg.

“Yn unol â gofynion y Cod Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, bydd Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn cael ei gwireddu mewn ffordd gynhwysol yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb.

“Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall yr holl ddysgwyr weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a’i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ar draws y cwricwlwm, a’u bod nhw’n gallu dysgu gwerthfawrogi gwahaniaethau ac amrywiaeth fel arwydd o gryfder.”

Derbyniad

Fe wnaeth aelodau gefnogi argymhelliad, yn dilyn cyfarfod ym mis Mawrth o’r Pwyllgor Trosolwg o Gymunedau Dysgu a Chraffu, i fabwysiadu cynnwys Polisi Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb Ceredigion a bod unrhyw sylwadau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru’n cael eu cynnwys fel gwelliannau i Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb.