Bydd deunawfed Plac Porffor Cymru yn cael ei ddadorchuddio ym Mrynmawr heddiw (dydd Mercher, Medi 18) i ddathlu bywyd y rebel eofn, Minnie Pallister.
Dyma enw aeth yn angof hyd nes i waith ymchwil manwl Alun Burge ar gyfer ei gofiant ohoni, Minnie Pallister: Voice of a Rebel, ddatgelu ei hanes.
Roedd Minnie Pallister yn ffeminydd nodedig iawn, ac wrth iddi eiriol yn gryf eithriadol dros hawliau merched o’r 1920au hyd at y 1950au, roedd yn rhagflaenydd i fudiad hawliau merched ail hanner y ganrif.
Aeth i’r afael â materion cydraddoldeb a’r berthynas rhwng y rhywiau, sy’n para i fod yn berthnasol heddiw, gan fynd wyneb yn wyneb yn uniongyrchol gyda dynion cymoedd de Cymru ar fater gwaith tŷ diddiwedd eu gwragedd, gwaith ddisgrifiodd hi fel math o gaethwasiaeth.
Ac fel un o’r cyntaf i ddadlau o blaid tâl lwfans teulu, helpodd i osod y sylfeini ar gyfer hawliau menywod heddiw.
Gwrthwynebydd cydwybodol a’r mudiad llafur
A hithau’n athrawes ysgol ym Mrynmawr, Minne Pallister oedd y prif wrthwynebydd benywaidd i’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru pan oedd gwrthwynebiad o’r fath yn hynod amhoblogaidd.
Fel ysgrifennydd Cymreig y ‘No Conscription Fellowship’, mudiad oedd yn gwrthwynebu gorfodaeth filwrol, bu’n gofalu am les 900 o wrthwynebwyr cydwybodol a’u teuluoedd.
Cafodd hi ei chyhuddo ddwywaith o annog brad, ond arhosodd yn heddychwraig amlwg drwy gydol ei hoes.
Aeth deallusrwydd, personoliaeth a phresenoldeb llwyfan Minnie Pallister â hi i uchelfannau’r mudiad llafur, lle’r oedd hi’n cael ei hystyried yr areithydd benywaidd orau yng ngwledydd Prydain.
Hi oedd y trefnydd llafur benywaidd llawn-amser cyntaf yng Nghymru.
Bu’n asiant i Ramsay MacDonald, yn Llywydd Cymru i’r Blaid Lafur Annibynnol ac yn ymgeisydd seneddol dros Bournemouth, a hynny pan oedd swyddi o’r fath yn brin iawn i fenywod – a gwnaeth y cyfan hyn a hithau’n dal yn ei thridegau.
Yn 1926, pan gafodd ei gorfodi i roi’r gorau i’w rolau llafur cenedlaethol oherwydd afiechyd trychinebus, cafodd ei holynu gan Ellen Wilkinson ac wedyn gan Oswald Mosely.
Salwch, ysgrifennu a darlledu
Yn ystod blynyddoedd o salwch pan oedd hi bron â bod yn gwbl anghenus, a hithau’n aml yn gaeth i’w gwely, yn gorwedd ar wastad ei chefn ac yn rhy wan i allu teipio hyd yn oed, byddai Minnie Pallister yn ysgrifennu erthyglau papur newydd â llaw er mwyn goroesi’n ariannol.
Wedi iddi adfer ei hiechyd, blodeuodd ei gyrfa newyddiadurol a daeth yn newyddiadurwraig lwyddiannus gyda’r Daily Herald a’r Daily Mirror.
Ysgrifennodd hi 600 o erthyglau a phum llyfr, gan gynnwys hunangofiant, ynghyd â nifer o bamffledi.
Yn 1938-9, teithiodd ddwywaith i’r Almaen Natsïaidd i helpu i achub Iddewon, a pharhaodd i wneud hynny hyd at ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
Erbyn y 1950au, roedd Minnie Pallister ar frig ei gyrfa fel darlledwraig – gyrfa ddechreuodd yn 1938.
Yn ddarlledwraig i’w hofni, daeth â min mwy treiddgar i raglen adloniannol Woman’s Hour â’i sicrwydd domestig.
Gan wrthod y consensws ceidwadol cyffredinol ynghylch rôl menywod, gyda’i ddelfrydau ‘gwneud’ y disgwylid i fenywod anelu atyn nhw, roedd ei beirniadaeth chwyrn o gylchgronau menywod a’r pasiantau harddwch yn rhagweld protestiadau cenhedlaeth newydd o ffeministiaid ddegawd yn ddiweddarach.
Roedd hi’n ffigwr mor rymus fel golygydd gwadd i Woman’s Hour nes i hanes ei bywyd gael ei ddarlledu dros gyfnod o bum niwrnod yn ystod ei hoes – hyn i gyd heb sôn am y ffaith mai hi oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cymeriad Spike Milligan, Minnie Bannister, yn y Goon Show.
Bydd ei chofiant gan Alun Burge, Minnie Pallister: Voice of a Rebel, yn cael ei lansio gan Wasg Parthian i gyd-fynd â dadorchuddio’r Plac Porffor.
‘Lle priodol yn hanes Cymru’
“Gyda’r bywgraffiad hwn mae Minnie Pallister wedi dychwelyd i’w lle priodol yn hanes Cymru, a gall ei chyfraniad i’r mudiad llafur a’r mudiad hawliau merched gael ei gydnabod yn llawn,” meddai Alun Burge.
Dywed Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru, y “gallwn, diolch i lyfr Alun, o’r diwedd ailddarganfod a thaflu goleuni ar y ddynes nodedig hon”.
“Yn ffeminydd i’r carn, roedd Minnie bob amser yn gwbl ddewr ac ymroddedig ac yn amlwg, fe gafodd ddylanwad aruthrol yn ei dydd,” meddai.
“Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac Amgueddfa a Chymdeithas Hanes Brynmawr, fe gaiff Minnie Pallister ei chofio â Phlac Porffor.”
Bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dadorchuddio’r plac yn y seremoni ym Mrynmawr.
“Ar bob tudalen o’r llyfr newydd safonol hwn cefais fy hun yn gofyn, “Pam nad oeddwn yn gwybod am hyn eisoes?” meddai.
“Dyma fywyd nodedig, dylanwad ffurfiannol ar y mudiad llafur, a’r rhan allweddol a chwaraeodd menywod oddi mewn iddo – y cyfan yn disgwyl i gael ei ddarganfod.
“Megis dechrau’r daith yw nodi bywyd Millie Pallister gyda’r Plac Porffor hwn.”