Mae cyngor sir wedi cydnabod yr “heriau sylweddol” oedd ynghlwm wrth droseddau’r pedoffil o brifathro Neil Foden.
Cafodd Foden, un o brifathrawon uchaf ei broffil yng Nghymru s’n hanu o Wynant, Hen Golwyn, ei garcharu am 17 o flynyddoedd am gamdrin pedair o ferched yn rhywiol.
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Addysg, y byddai ei hadran yn “cydymffurfio’n llawn” ag adolygiad annibynnol o Foden, oedd yn gweithio fel prifathro Ysgol Friars ym Mangor ac fel prifathro strategol ar gyfer Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Mae hi hefyd wedi croesawu ymchwiliad craffu ehangach gan y Cyngor i faterion yn ymwneud â diogelu plant.
‘Barod i weithredu’
“Hoffwn gydnabod yr heriau sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i droseddau Neil Foden, a bod ein meddyliau ni i gyd efo’r dioddefwyr,” meddai’r Cynghorydd Beca Brown.
“Mae’r adran a’r Cyngor wedi bod yn darparu cefnogaeth i staff a dysgwyr Ysgol Friars dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn parhau i wneud hynny.
“Yn ogystal, mae’r adran a’r Cyngor wedi ymrwymo i gydymffurfio’n llawn â’r adolygiad annibynnol yn unol â chanllawiau adolygiadau ymarfer plant cenedlaethol, ac yn barod i weithredu ar sail unrhyw ganfyddiadau neu argymhellion pan fyddan nhw’n hysbys.
“Dw i hefyd yn croesawu bwriad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i gwblhau ymchwiliad craffu ym maes diogelu plant, a bydd yr Adran unwaith eto’n barod i gydymffurfio’n llawn â’r ymchwiliad hwn hefyd.”