Mae tafarn yng Ngwynedd sydd wedi bod ar gau ers blwyddyn yn ailagor fory (dydd Iau, Medi 21), yn dilyn dadl ynglŷn â’r les.
Roedd ymgyrchwyr yn Llanfrothen wedi bod yn galw ar fragdy Robinsons i ryddhau les y Brondanw Arms, neu’r ‘Ring’ fel mae hi’n cael ei hadnabod yn lleol.
Ar ôl i’r dafarn gau y llynedd yn sgil yr argyfwng costau ynni, fe wnaethon nhw fethu â dod o hyd i denant newydd, ac roedd y gymuned yn mynnu bod “diffyg buddsoddiad” gan y bragdy yn ffactor.
Ond yn sgil cyfaddawd gan Robinsons, bydd Emlyn Roberts, fu’n rhedeg y dafarn am dros ugain mlynedd tan 2014, yn denant am oddeutu’r chwe mis nesaf.
Mae Robinsons wedi cytuno i wario tua £160,000 ar yr adeilad. Bydd y dafarn yn cau am gyfnod er mwyn gwneud y gwaith a dydy Emlyn Roberts heb gytuno i barhau â’r gwaith ar ôl hynny.
“Roedd hi’n amser ailagor, dim ond oherwydd ei fod wedi cau ers dros flwyddyn a theimladau yn y pentref wedi dechrau mynd yn ryw fath ‘dylen nhw wneud mwy o ailagor’,” meddai Emlyn Roberts, fu’n rhedeg y dafarn mewn dau gyfnod gwahanol rhwng 1991 a 2014, wrth golwg360.
“Ar ôl i’r tenant diwethaf fynd, roedd yna dipyn o waith ar eu hôl nhw i fynd a chael y lle i drefn, y peth pwysicaf, a gwneud o edrych yn fwy dymunol i’r pentref ac yn bwysicach fyth bod o’n rhan yn ôl o’r gymuned.
“Roedden ni wedi bod yn rhoi dipyn o bwysau ar y bragdy i ailagor a phrynu’r les, ond doedd dim o hynna’n mynd i weithio.
“Y pellaf oedden ni’n mynd â nhw, y mwyaf oedden nhw’n rhoi eu hangorau mewn a pheidio symud ar y peth.
“Yr ail beth oedden ni eisiau oedd eu bod nhw’n gwario rhywfaint o bres ar y dafarn – dydyn nhw ddim wedi gwneud ers blynyddoedd – a’u bod nhw’n buddsoddi rhywbeth yn ôl i’r pentref a’r dafarn ei hun.
“Fe wnaethon nhw gytuno eu bod nhw’n mynd i wario o gwmpas tua £160,000 ym mis Ebrill, ond y broblem oedd eu bod nhw ddim yn mynd i’w hagor hi tan fis Ebrill nesaf oherwydd y bysa fo’n rhy gymhleth dod o hyd i denant ac wedyn eu cau nhw lawr er mwyn gwneud y gwaith ac roedden nhw’n teimlo bod hynny ddim yn deg.”
‘Bwrlwm yn y lle’
Pe bai hynny’n digwydd, byddai’r dafarn wedi bod ar gau am bron i ddwy flynedd.
Ond, oni bai am ddod o hyd i denant fyddai’n fodlon ei rhedeg am chwe mis, dyna’r unig opsiwn, meddai’r bragdy.
“Ac mi wnes i ddweud, ‘Mi wna’i wneud hynny!’, meddai Emlyn Roberts, fydd yn agor yr adeilad fel tafarn yn unig, ond nid y gegin, am y chwe mis.
“Roeddwn i’n sbïo o’m cwmpas a phobol ddim yn gwybod be’ i wneud, rhai’n mynd i rai tafarndai gwahanol, a phobol ddim yn mynd allan o gwbl.
“Doedden ni methu codi pres i’r gymuned, ysgol y pentref eisiau pres, mae yna o hyd rywun eisiau codi arian a doedd yna ddim hwb i wneud hynny; roedden ni’n colli hynny’n ofnadwy.
“Mae yna gymaint o bethau fysan ni’n licio yn y pentref, ond methu codi’r pres oherwydd fod gennym ni ddim yr hwb i’w wneud o, ond rŵan mae gennym ni o’n bendant am chwe mis.
“Dw i reit ffyddiog y bydd yna denant oherwydd eu bod nhw’n gwario arno fo rŵan, a finnau wedi tacluso gymaint â galla’i arno fo, a bod yna fusnes yn ôl, pobol yn dod yma a gweld bod yna fwrlwm yn y lle.
“Mae yna well gobaith nag oedd yna gynt pan oedd yna werth deufis o waith cyn hyd yn oed agor y drws.”