Mae cynghorydd gafodd ei phenodi fel llais ar ran cymuned Sipsiwn a Theithwyr Torfaen yn dweud ei bod hi’n gobeithio gweld yr awdurdod lleol yn cefnogi “safle tramwy” yn y de.

Mae Sue Malson, sy’n credu mai hi yw’r cynghorydd cyntaf o gefndir Sipsiwn, Teithwyr a Romani i gael ei hethol yn Nhorfaen, wedi addo “gwarchod” y gymuned a “brwydro yn erbyn gwahaniaethu”.

Dywedodd wrth gynghorwyr fod y gymuned yn dal i wynebu gwahaniaethu, gan gyfeirio at daflenni gafodd eu dosbarthu gan David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, a’u beirniadu gan elusen, yn Sir Fynwy ynghylch safle posib i Sipsiwn a Theithwyr.

Yn dilyn ymchwiliad, dywedodd yr heddlu na fyddan nhw’n cymryd camau ynghylch y taflenni.

Tynnodd y Cynghorydd Sue Malsom sylw at y mater heb enwi’r Aelod Seneddol Ceidwadol, ar ôl iddi dderbyn y swydd yng nghyfarfod Cyngor Bwrdeistref Torfaen ym mis Medi.

“Dw i’n credu mai fi yw’r cynghorydd cyntaf yn Nhorfaen â’m cefndir i,” meddai.

“I’r gymuned Sipsiwn, Teithwyr a Romani, byddaf i’n gwneud fy ngorau i’ch gwarchod chi, ac i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac ymlid.

“Pam ydw i’n dweud hynny? Oherwydd mae’n dal i fynd.

“Mae’n 2023, ac mae Sipsiwn, Teithwyr a Romani yn wynebu gwahaniaethu ac ymlid.

“Yn ddiweddar, fe wnaeth Aelod Seneddol cyfagos ddosbarthu taflen ar gyfer ymgynghoriad, ‘Wyddoch chi fod y Cyngor Sir dan reolaeth Llafur eisiau creu safle Sipsiwn a Theithwyr yn eich ardal chi? Un cwestiwn, ‘A hoffech chi weld safle Teithwyr ger eich cartref?”

Pan wnaeth Sipsiwn a Theithwyr “dynnu i fyny” yn Nhorfaen dros yr haf, meddai, cafodd sylwadau ymosodol eu gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Wna i ddim dweud y geiriau gafodd eu defnyddio dros Facebook, ond rydych chi’n gwybod beth ydyn nhw,” meddai.

“Mae Sipsiwn, Teithwyr a Romani yn dewis byw mewn trelars, rydych chi’n dewis byw mewn brics a mortar.

“Dydyn ni’n ddim gwahanol, does neb ddim gwahanol, does neb yn berffaith ond rydyn ni i gyd yn unigolion.”

Rhan o’r dref ers dros ganrif

Dywed cynghorydd Llafur dros Drefddyn a Phen-y-garn ym Mhont-y-pŵl ei bod hi eisiau rhoi “gwers hanes fach” i’w chydweithwyr, a’u hatgoffa nhw fod Sipsiwn wedi bod yn rhan o’r dref ers dros ganrif, gan gynnwys aelodau ei theulu ei hun yr oedd ei nain a’i thaid yn byw yn Rose Cottage.

Wrth siarad â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol, dywed y cynghorydd 59 oed fu’n “byw mewn trelar flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i’n ifanc”, ei bod hi’n gobeithio mynd i’r afael â diffyg safle tramwy yn y de, sy’n golygu y rheiny sy’n galw heibio’r safle i wersylloedd sydd heb eu hawdurdodi.

“Does dim safleoedd tramwy yng Nghymru, dyna fy ngorchwyl nesaf,” meddai’r Cynghorydd Sue Malson, sy’n gobeithio mynd i’r afael â’r mater gyda’r Cyngor Bwrdeistref.

Tynnodd Cyngor Sir Fynwy sylw at ddiffyg safleoedd tramwy ym mis Ebrill hefyd, yn dilyn cwynion pan fu Sipsiwn a Theithwyr yn gwersylla yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent dros y Pasg.

Dywed y Cynghorydd Sue Malson y gallai safleoedd tramwy fynd i’r afael â materion o’r fath.

“Yn ystod yr haf, mae Sipsiwn, Teithwyr a Romani yn teithio o amgylch, yn enwedig wrth iddyn nhw fynd i ffeiriau megis Appleby neu Lanfair ym Muallt, ac am nad oes safleoedd tramwy maen nhw’n tynnu i fyny,” meddai.

Er gwaetha’r sylwadau sy’n cael eu taflu atyn nhw, dywed fod y rheiny oedd wedi tynnu i fyny yn Nhorfaen dros yr haf wedi cysylltu â’r Cyngor i ofyn am fagiau du a blychau ailgylchu.

Diffyg cydnabyddiaeth

Dywed ei bod hi’n teimlo bod diffyg cydnabyddiaeth i gyfraniadau’r gymuned, megis yn ystod y cyfnod clo pan wnaethon nhw gefnogi banciau bwyd a phrynu anrhegion i blant yn yr ysbyty.

Roedd hi hefyd wedi dweud wrth y Cyngor nad oedd gwaith papur y Cyngor yn rhestru Sipsiwn, Teithwyr a Romani fel opsiwn hunaniaeth pan gafodd hi ei hethol, ac roedd hi eisiau diolch i Peter Jones, Aelod Cabinet y Cyngor tros gydraddoldeb, a’r uwch swyddog Lyndon Puddy am fynd i’r afael â hynny gyda Llywodraeth Cymru.

“Ydych chi’n gwybod sut deimlad yw gorfod rhoi croes wrth ymyl ‘Arall’?” meddai wrth gynghorwyr.

“Na, dydych chi ddim, oherwydd dydych chi ddim yn Sipsiwn, Teithwyr, Romani.”

Cafodd hi gymeradwyaeth yn siambr y Cyngor ar ôl derbyn y swydd, gan ddweud wrth ei chydweithwyr, ‘Dw i’n gwybod y gall fy ngheg redeg i ffwrdd oddi wrtha i. Dw i’n gwybod fod rhai yn fy hoffi ac eraill yn fy nghasáu, ond dydy hynny ddim yn fy mhoeni oherwydd mai fi ydw i, fel mai chi yw chi, felly dw i’n cymryd y rôl hon o ddifrif.”

Diben y rôl

Bwriad y rôl pencampwr di-dâl yw sicrhau llais i “grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli’n draddodiadol”, neu faterion sy’n cael eu hystyried yn rhai y dylid eu “cadw’n flaenllaw ym musnes y Cyngor”.

Yn ystod y cyfarfod, cafodd Nick Byrne, cynghorydd Llafur New Inn, ei benodi’n hybwr iechyd meddwl, gan ymuno â hybwyr eraill gan gynnwys rhai dros ofal, y lluoedd arfog a chlefyd niwronau motor.

Rhoddodd y Cynghorydd Nick Byrne, oedd yn methu bod yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau gwaith, ddatganiad trwy law’r arweinydd Anthony Hunt, gan ddweud bod iechyd meddwl yn “eithriadol o bwysig i fi, ac yn rywbeth dw i’n bersonol wedi ei frwydro”.