Gallai cwsmeriaid pedair o siopau Tesco yng Nghymru ennill cyfran o £500,000 i’w hysgol neu gymuned leol ddydd Sadwrn (Medi 23).
Rhwng 12yp ac 1yp, bydd cwsmeriaid yn Wrecsam, Casnewydd, Pontypridd a Llansawel yn cael cymryd rhan mewn twba lwcus i ddod o hyd i docyn aur.
Fe fydd cwsmeriaid yn y siopau hynny, ynghyd â 96 siop arall yng ngwledydd Prydain, yn cael dewis ysgol leol neu brosiect cymunedol i dderbyn grant o £5,000 i’w wario ar fwyd iach neu offer i roi dechrau gwell i blant yn eu bywydau.
Caiff y ‘Golden Grants’ eu rhannu ddwywaith y flwyddyn fel rhan o raglen ‘Stronger Starts’ yr archfarchnad.
‘£5,000 yn gwneud gwahaniaeth anferth’
Pwrpas y grantiau ydy helpu ysgolion a grwpiau plant i ddarparu bwyd a gweithgareddau iach sy’n cefnogi iechyd corfforol a llesiant meddyliol pobol ifanc, fel clybiau brecwast neu offer chwaraeon.
“Mae ysgolion a phrosiectau lleol yn hanfodol i gefnogi ein plant a’n cymunedau,” meddai Jason Tarry, Prif Weithredwr Tesco UK.
“Rydyn ni’n rhoi’r cyfle i gwsmeriaid sy’n ymweld â’r 100 siop i wneud gwahaniaeth i ysgol neu grŵp sy’n gwneud gwaith anhygoel ar eu stepen drws.”
Roedd Jordan Banjo, sy’n rhan o’r grŵp dawnsio Diversity ac sy’n gyflwynydd ar Kiss Breakfast, yn un o’r rhai fu’n helpu i lansio Stronger Starts ym mis Gorffennaf.
“Nawr, gall £5,000 wneud gwahaniaeth anferth i ysgol neu brosiect cymunedol, a helpu i roi dechrau cryfach mewn bywyd i blant, felly ewch lawr i’ch siop leol a cheisiwch ddod o hyd i’r tocyn aur,” meddai.