Mae teuluoedd wedi rhannu eu pryderon ynglŷn â sut y byddai agor parc gwyliau drws nesaf i hosbis Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg yn effeithio ar breswylwyr yno.
Mae trafodaethau ynghylch y cynlluniau wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd bellach, ond mewn datganiad yr wythnos diwethaf, dywedodd Tŷ Hafan nad yw’r cais wedi cael ei gymeradwyo eto.
Mae’r cais wedi’i gyflwyno gan berchennog parc adloniant Ynys y Barri, a phe bai’n cael ei gymeradwyo, bydd y parc yn cael ei leoli ger Heol Hayes, rhwng Tŷ Hafan a Choleg Beechwood, sy’n goleg preswyl ar gyfer pobol ifanc ag anghenion ychwanegol.
Ers cyhoeddi datganiad Tŷ Hafan, mae cais cynllunio arall ar gyfer “storfa carafanau a chartrefi modur arfaethedig” wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y safle, ac mae modd i’r cyhoedd rannu eu sylwadau ar y cais ar-lein.
“Ddim yn opsiwn”
Dywedodd yr hosbis eu bod nhw’n gwrthwynebu’r cais yn ffurfiol “ar sawl sail”.
“Yn syml iawn, nid yw adeiladu parc gwyliau i wasanaethu’r Barri, rhwng hosbis plant yn Sili a choleg preswyl i bobol ifanc ag anghenion cymhleth, yn opsiwn,” meddai Tŷ Hafan.
“Rydym yn disgwyl i ‘gynlluniau’ perchennog y tir ar gyfer gwersyll gwyliau barhau i esblygu, fel y nodir gan ei adroddiadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Felly, hoffem roi sicrwydd, i bawb sydd wedi mynegi pryder, y bydd Tŷ Hafan yn gwrthwynebu datblygiad unrhyw barc gwyliau, neu amwynderau o’r fath, ar y tir drws nesaf union.
“Mae hyn oherwydd y tarfu anochel ar dawelwch safle ein hosbis, lle mae llawer o blant a theuluoedd yn wynebu colled na ellir ei dychmygu, neu yn dod i delerau â cholled o’r fath.”
Eu pryder yw y byddai’r parc yn cael effaith ar breifatrwydd a llonyddwch y plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ac sy’n defnyddio’r cyfleusterau preswyl, a’u teuluoedd.
Mae sawl rhiant eisoes wedi cyfrannu at adroddiadau ynghylch sut y byddai cael parc gwyliau drws nesaf yn amharu ar allu eu plant i fyw eu dyddiau olaf mewn llonyddwch.
‘Awyrgylch arbennig’
Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn rhannu’r un pryderon sydd gan Dŷ Hafan, wedi iddi hithau weld pwysigrwydd y safle i deuluoedd yn ystod ymweliad yno.
“Mi roeddwn i’n ddigon lwcus i gael gwahoddiad i ymweld llynedd, a gweld efo’n llygaid fy hun lle mor arbennig ydi o,” meddai wrth golwg360.
“Gwelais ba mor bwysig yw’r gofod ei hun o ran galluogi teuluoedd i fyfyrio a gallu mwynhau, yn aml, rai o ddyddiau, wythnosau neu flynyddoedd olaf eu plentyn mewn lle o lonyddwch.”
Yn yr un modd â’r rhieni sydd wedi bod yn rhannu eu pryderon, mae Heledd Fychan hefyd yn rhagweld y bydd y parc gwyliau yn cael effaith negyddol ar awyrgylch yr hosbis.
“Felly fy mhryderon i, o weld yr hyn mae’r teuluoedd sydd wedi cael gofal yn Nhŷ Hafan wedi dweud, ydi beth fyddai effaith hyn o ran yr awyrgylch arbennig iawn sydd yna,” meddai.
“Mae o’r adeg waethaf i unrhyw riant neu unrhyw deulu fynd trwyddo fo, ac mae meddwl y byddai’r hyn mae Tŷ Hafan yn ei gynnig yn gallu cael ei effeithio mewn ffordd negyddol yn bryder mawr.”
Mae’r unigolyn y tu ôl i’r cais wedi amddiffyn ei gynlluniau, gan honni mai fo fyddai’r “cymydog gorau y gallai Tŷ Hafan ofyn amdano”.
Dywed hefyd y byddai’n gwneud y safle’n ddeniadol, ac na fyddai’r parc yn amharu ar neb gan fod angen cerdded am ddeg munud i’w gyrraedd.