Mae angen i’r cyfyngiadau 20m.y.a. fod yn rhan o becyn i annog pobol i newid y ffordd maen nhw’n teithio er mwyn gwneud y gorau ohonyn nhw, yn ôl arbenigwr ar deithio actif.

Yn ôl Dafydd Trystan, cadeirydd Bwrdd Teithio Actif Cymru, mae angen gwneud cerdded a seiclo’n haws, ynghyd â sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn “ffit i bwrpas”, er mwyn annog pobol i ddewis ffyrdd amgen o deithio.

Cafodd terfynau cyflymder o 20m.y.a. eu cyflwyno ddydd Sul (Medi 17), a hynny ar nifer o ffyrdd oedd yn arfer bod yn 30m.y.a.

Mae Llywodraeth Cymru’n dadlau y bydd y newid yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod rhywun bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd os ydyn nhw’n cael eu taro gan gar yn teithio 30m.y.a. o gymharu â char sy’n teithio ar gyflymder o 20m.y.a.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n dweud y bydd y newid yn annog pobol i gerdded neu feicio’n amlach.

‘Haws perswadio pobol i gerdded neu feicio’

Mae effaith y newid ar gyfraddau beicio a cherdded yn dibynnu ar faint mae pobol yn arddel y newidiadau, yn ôl Dafydd Trystan.

“Dw i’n mawr obeithio y bydd pobol yn achos mae yna her i sicrhau bod pobol yn dilyn y rheolau newydd,” meddai wrth golwg360.

“Os felly, dw i’n meddwl ei bod hi’n mynd i fod tipyn yn haws i berswadio pobol i fynd am dro neu i fynd ar gefn eu beic.

“Un o’r pethau mae pobol yn ei ddweud yn fynych am pam dydyn nhw ddim yn seiclo, dyweder i’r ysgol gyda’u plant, ydy bod e’n rhy beryglus.

“Mae’r holl dystiolaeth yn dangos, pan mae ceir yn teithio 20m.y.a. neu lai, mae’r awyrgylch a’r amgylchfyd yn llawer mwy diogel i blant a theuluoedd sy’n mynd i’r ysgol, er enghraifft.

“Yn enwedig mewn cyd-destunau trefol, mae pobol fel arfer yn goramcangyfrif faint o amser fydd e’n cymryd i fynd ar gefn beic i rywle, ac yn tanamcangyfrif faint o amser mae’n ei gymryd i fynd â’r car i rywle.

“Felly, os oes rhywbeth fedrwn ni ei wneud i atgoffa pobol mai dim ond pum munud o dro yw e i’r siop leol neu ddim ond pum munud ar gefn beic yw e i’r cae chwarae lleol, mae’n debygol o fod yn bum munud mewn car hefyd, yn enwedig os ydych chi’n meddwl am faint o amser mae’n cymryd i barcio a’r holl bethau hynny.”

Edrych ar y “pictiwr eang”

Mae’r dystiolaeth o Sbaen, sydd wedi cyflwyno parthau 30km/h mewn nifer o ardaloedd trefol, yn dangos bod llai o wrthdrawiadau a mwy o bobol yn cerdded a seiclo, yn ôl Dafydd Trystan.

“Dyna’r dystiolaeth, ond – ac mae hwn yn ond mawr – be’ maen nhw hefyd wedi’i wneud ydy buddsoddi mewn adnoddau beicio, cerdded, cyfleusterau i bobol sy’n cerdded a seiclo ar yr un pryd.

“Fyddwn i’n gobeithio gweld effaith ar y nifer sy’n cerdded a seiclo, ond yr hyn sy’n allweddol yw bod Llywodraeth [Cymru] a llywodraethau lleol yn meddwl am hwn fel rhan o becyn o newid sut mae pobol yn teithio.

“Er mwyn gwneud hynny, mae angen gwneud cerdded a seiclo’n haws, ond mae angen hefyd sicrhau bod gwasanaethau bysus a threnau hefyd yn ffit i bwrpas.

“Os am gael yr effaith fwyaf, mae angen sicrhau bod y pictiwr eang yna’n cael ei ddatrys ar yr un pryd.

“Dw i yn clywed o ardaloedd eraill bod pobol yn gweld bod cyflymder ceir wedi lleihau, ac felly eu bod nhw’n fwy parod i fynd ma’s ar gefn eu beics.”

‘Teimlo’n saffach’

Un sydd wedi gweld gwahaniaeth mewn cyflymder ceir ydy Elin Jones o Ffestiniog, sy’n beicio tair milltir i’w gwaith bob dydd.

“Mae ceir yn arafach, ac mae o’n gwneud i seiclwyr deimlo’n saffach,” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn i’n teimlo reit ddiogel cynt, ac mae’n anodd gweld y gwahaniaeth ar hyn o bryd yn fan hyn oherwydd gwaith ffordd, ond dw i’n sicr fod y newid am wneud lles.

“Dw i yn gobeithio hefyd y bydd o’n annog mwy o bobol i feicio’n amlach.”

Beth sydd angen ei wybod am y terfyn cyflymder 20m.y.a. newydd?

Cadi Dafydd

Mae digon o ddadlau wedi bod am y newid, ond beth yn union mae’r terfyn cyflymder newydd yn ei olygu?