Aeth rai diwrnodau heibio bellach ers i gyfyngiadau 20m.y.a. ddod i rym ddydd Sul, Medi 17 ar sawl ffordd ledled Cymru oedd yn arfer bod yn 30m.y.a.

Mae hen ddigon o ddadlau wedi bod ymhlith gwleidyddion, ac o fewn deuddydd roedd 150,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am ddadwneud y newid.

Ond beth yn union mae’r newid yn ei olygu?

Pa ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20m.y.a.?

Mae’r newid yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd oedd yn arfer bod yn 30m.y.a, ond nid pob un ohonyn nhw.

‘Ffyrdd cyfyngedig’ ydy’r term sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at y ffyrdd sydd wedi newid. Er nad oes diffiniad penodol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, maen nhw fel arfer yn ffyrdd mewn ardaloedd lle mae nifer sylweddol o dai ac adeiladau, a nifer sylweddol o bobol yn byw a gweithio. Yn aml, mae goleuadau stryd o fewn 200 llath i’w gilydd ar hyd y ffyrdd yma.

Bydd arwyddion 30m.y.a. ar y ffyrdd sy’n aros felly.

Pwy sy’n penderfynu pa ffyrdd sy’n cael eu heffeithio?

Cynghorau lleol sy’n penderfynu pa ffyrdd sydd heb newid i 20m.y.a, ac mae modd gweld yr holl newidiadau ar fap yma drwy fynd i https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/view#/

Mae tua 30,000 o arwyddion ffyrdd wedi, neu yn cael eu newid, ac amcangyfrif o ryw 7,700 o filltiroedd o ffyrdd yng Nghymru – allan o’r 22,000 milltir dros y wlad.

Gall cynghorau wneud eithriadau os oes “tystiolaeth gref yn bodoli i ddangos bod cyflymder uwch yn ddiogel”, ac er mwyn cadw ffyrdd yn 30m.y.a. mae’n rhaid i gynghorau brofi na fydd cerddwyr na beicwyr yn cael eu rhoi mewn perygl gan gyflymderau uwch.

Pam fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r newid?

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd newid y cyfyngiadau i 20m.y.a. yn lleihau nifer y damweiniau, sŵn a llygredd, ac yn annog pobol i gerdded neu feicio mwy.

Yn ôl yr ystadegau swyddogol, cafodd mwy o bobol eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn parthau 30m.y.a. y llynedd yng Nghymru nag ar ffyrdd â therfynau cyflymder eraill.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod y tebygolrwydd o farw bum gwaith yn uwch pe bai rhywun yn cael eu taro gan gar yn teithio 30m.y.a. o gymharu â char sy’n teithio ar gyflymder o 20m.y.a. Ar gyfer ceir sy’n teithio ar 30m.y.a., mae’n cymryd naw metr i feddwl cyn ymateb, a 14 metr i’r car stopio ar ôl pwyso’r brêc. Mae’r metrau’n gostwng i chwe metr i feddwl, a chwech i stopio yn achos car sy’n teithio 20m.y.a.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, gall y newid arbed £92m i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’n flynyddol.

Ble arall sydd â therfyn cyflymder o 20m.y.a.?

Cafodd y parth 20m.y.a. cyntaf ei greu yn Sheffield yn 1991, ond Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf i ostwng eu terfynau cyflymder i 20m.y.a.

Fe wnaeth Sbaen ostwng eu terfynau cyflymder i 30km/h (18.6m.y.a.) ar y rhan fwyaf o’u ffyrdd yn 2019.

Ers hynny, mae nifer y marwolaethau ar ffyrdd trefol wedi gostwng 20%, a nifer marwolaethau ymysg beicwyr wedi gostwng 34%, a’r cyfanswm ymhlith cerddwyr 24% yn is.

Mae gan nifer o ddinasoedd a threfi yn y Deyrnas Unedig gyfyngiadau 20m.y.a. ar ffyrdd o amgylch tai hefyd.

Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am effaith y newid?

Mae’r dystiolaeth o amgylch y pwnc yn amrywio. Daeth astudiaeth gan Brifysgol Queens yn Belfast a Phrifysgol Caeredin i’r casgliad, ar sail tystiolaeth yn Belfast, nad yw arafu’r terfyn cyflymder ar ffyrdd trefol i 20m.y.a. yn “gwella diogelwch yn sylweddol”.

Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n mynnu y gallai’r gostyngiad arwain at fuddiannau iechyd “sylweddol”, helpu pobol i deimlo’n ddiogel, arwain at lai o wrthdrawiadau, a gwella llesiant meddyliol a chorfforol pobol. Roedd astudiaeth ddiweddar ganddyn nhw’n awgrymu y gallai arwain at 40% yn llai o wrthdrwiadau.

A fydd y newid yn arwain at fwy o allyriadau?

Ar y gwaethaf, fydd dim newid i allyriadau, medd Llywodraeth Cymru. Ond eu gobaith yw y bydd llai o geir ar y ffyrdd, a mwy o bobol yn cerdded neu feicio.

Faint yn hirach fydd hi’n ei gymryd i gwblhau taith?

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fydd y newid ddim yn cael unrhyw effaith, neu’n cael effaith fach iawn ar amser teithiau. Roedd eu dadansoddiad yn dangos mai dim ond munud yn hirach fydd y rhan fwyaf o deithiau mewn llefydd sy’n cael eu heffeithio.

Sut fydd y gyfraith yn cael ei gweithredu?

Gall yr heddlu stopio cerbyd sy’n teithio dros 20m.y.a., rhoi dirwy o o leiaf £100 a thri phwynt ar drwydded, mewn theori.

Ond maen nhw’n dweud y byddan nhw’n rhesymol tra bo gyrwyr yn dod i arfer â’r newid, ac y byddan nhw’n canolbwyntio ar addysgu am y deuddeg mis cyntaf.

“Ein blaenoriaeth fydd helpu pobol i ddeall pam y dylen nhw arafu a’r buddion i’w cymuned,” meddai Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu’r De, Mark Travis.

“Pan fyddan ni’n gweld pobol yn gyrru dros 20m.y.a., byddan ni’n stopio’r gyrwyr a siarad efo wnh am y peryglon o ddreifio dros y terfyn cyflymder.

“Fyddan ni ddim yn gweithredu’n erbyn pobol sy’n ymgysylltu â ni ac yn trio arafu – felly fyddan nhw ddim yn derbyn dirwy.

“Y rhai fydd ynn cael dirwy fydd y rhai fydd yn gyrru ar y lefelau uchaf. Yn y pendraw, os oes angen, byddan ni yn ei orfodi – ond mae hynny wastad yn ddewis olaf i ni.”

Os nad ydych chi’n gwybod os ydych chi mewn parth 20m.y.a. neu 30m.y.a., mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn dweud y dylech chi feddwl am 20m.y.a. os ydych chi’n gweld goleuadau stryd.

Ar ba gyflymder fydd rhaid i rywun deithio cyn y bydd erlyniad?

Yn ôl y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi, y trothwy yw 10%+2m.y.a. dros y terfyn ar gyfer parthau 30m.y.a. Ond yn achos parthau 20m.y.a. mae’r ffigwr yn codi i 10%+4m.y.a. Mae hynny’n golygu mai 26m.y.a. fydd y cyflymder uchaf cyfreithlon.