Bydd ymgynghoriad diweddar ar newidiadau i drethi yn Sir Benfro’n cael ei drafod fis Rhagfyr, yn hytrach na mis nesaf.

Gallai arwain at bremiwm treth gyngor o 300% yn cael ei godi ar ail gartrefi.

Mae rheolau treth newydd gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni’n golygu bod awdurdodau lleol yn gallu gosod premiymau treth o hyd at 300% ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor.

Mae premiwm treth gyngor Sir Benfro ar gyfer ail gartrefi’n 100% ar hyn o bryd, a chafodd premiwm ar gyfer tai gwag hirdymor ei gyflwyno yn 2019 ar gyfer tai sydd wedi bod yn wag ers tair blynedd neu hirach.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau posib ei lansio’n gynharach eleni, ac roedd disgwyl i Gabinet Cyngor Sir Benfro ystyried ei ganfyddiadau mewn cyfarfod ar Hydref 2, gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor llawn ar Hydref 12.

Roedd disgwyl i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Cyn Penderfynu’r Cyngor ei drafod yn eu cyfarfod heddiw (Medi 19).

Fodd bynnag, penderfynwyd gohirio’r eitem tan eu cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Gohirio “ddim yn ddiwedd y byd”

Cafodd trafodaeth ynglŷn â’r eitem ei chwtogi heddiw yn dilyn cais gan y Cynghorydd Aled Thomas, ddywedodd ei fod yn anhapus heb un ddogfen gyfreithlon, oedd ar gael mewn cyfarfodydd blaenorol ond heb gael ei chyflwyno i’r pwyllgor heddiw.

Dywedodd na fyddai’n “teimlo’n gyfforddus yn gwneud unrhyw argymhelliad heb weld y ddogfen honno”.

Fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Jordan Ryan fod y ‘ddogfen gyfreithiol’ yn ymwneud mwy â gwybodaeth gefndirol, gan ychwanegu nad oedd yn “ddim byd mawr; ond os yw aelodau eisiau gohirio dw i ddim yn meddwl bod hynny’n ddiwedd y byd”.

Fe wnaeth y Cynghorydd Mike Stoddart eilio cynnig Aled Thomas i ohirio, a phasiodd y cynnig o chwe phleidlais i bedair, gydag un yn ymatal.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Cyn Penderfynu gynnal cyfarfod arbennig i drafod y mater fis nesaf, ac i’r mater fynd gerbron y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

Mae Ceredigion wedi lansio ymgynghoriad tebyg yn ddiweddar, sydd ar agor tan Hydref 29.