Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnydd posib ym mhremiwm treth gyngor ail gartrefi ac eiddo gwag Ceredigion wedi cael ei lansio.

25% yw’r premiwm yng Ngheredigion ar hyn o bryd ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, tra bod gan siroedd cyfagos gyfraddau uwch – 100% yn Sir Benfro, 50% yn Sir Gaerfyrddin a 75% ym Mhowys.

Mae gan un o drefi’r sir, Ceinewydd, gyfradd ail gartrefi dros chwarter holl eiddo’r sir, yn ôl ffigurau’r Cyngor.

Mae rheolau treth lleol Llywodraeth Cymru bellach yn galluogi awdurdodau lleol i gasglu premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300%.

Ymgynghoriad

Yn eu cyfarfod ym mis Medi, fe wnaeth cynghorwyr Ceredigion gefnogi lansio ymgynghoriad.

Bellach, mae Cyngor Sir Ceredigion eisiau clywed gan drigolion ynghylch cyfraddau’r premiwm treth gyngor yn y dyfodol, gan gynnwys pa effaith allai unrhyw newid ei chael ar gymunedau lleol, yr iaith Gymraeg, twristiaeth a’r economi.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n clywed gennych chi, y cyhoedd, ynghylch beth rydych chi’n credu fyddai’r dull gorau ar gyfer ein premiwm treth gyngor,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae mynd i’r afael ag ail gartrefi, perchnogaeth llety gwyliau a throi eiddo preswyl yn llety gwyliau’n flaenoriaeth o fewn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2022-27 sydd wedi cael ei chymeradwyo.

“Mae hyn a chynyddu cyflenwad ac ystod tai fforddiadwy yng Ngheredigion yn rhan allweddol o’n Hamcan Lles Corfforaethol i greu cymunedau cynaliadwy, gwyrdd cysylltiedig.

“Byddwn yn annog pawb sy’n byw a gweithio yng Ngheredigion i gwblhau ein harolwg, fel bod modd i ni glywed eich meddyliau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r mater.”

Y sefyllfa yng Ngheredigion

Ar gyfer cyllideb 2023-24, roedd 33,856 o eiddo y byddai modd codi treth arnyn nhw yng Ngheredigion, gyda 1,697 ohonyn nhw’n ail gartrefi a 592 yn eiddo gwag, gyda’r ddau ddosbarth yn cynrychioli 6.8% o’r holl eiddo.

Roedd yr ardaloedd â’r cyfraddau uchaf o ail gartrefi yn y sir yn arfordirol ar y cyfan, a’r uchaf ohonyn nhw oedd Ceinewydd gyda chyfradd o 27.2%, ac wedyn Llangrannog (17.1%), y Borth (14.1%), Pontarfynach (11%), Penbryn (9.6%), Aberaeron (9.1%) ac Aberporth (8.4%).

Roedd cyfraddau eiddo gwag hirdymor ar eu huchaf mewn ardaloedd mwy trefol: Aberporth (2.2%), Aberystwyth (1.8%), Aberteifi a Llandysul (1.5%).

Mae’r ymgynghoriad yn para tan Hydref 29.

Mae copïau papur ar gael ym mhob llyfrgell a chanolfan hamdden yng Ngheredigion, gan gynnwys y faniau llyfrgell symudol.

Daeth ymgynghoriad tebyg yn Sir Benfro gyfagos i ben yn ddiweddar, a bydd canlyniadau hwnnw’n cael eu hystyried gan uwch gynghorwyr fis nesaf.