Bydd unig ŵyl gelfyddydol Gymraeg Casnewydd yn dychwelyd am y pumed tro ddiwedd y mis yma.
Bydd Gŵyl Newydd yn fwy o ddathliad lleol eleni, er mwyn “adlewyrchu’r diddordeb” yn y Gymraeg yn yr ardal.
Bwriad yr ŵyl ydy dathlu Cymreictod y ddinas a’r ardal leol, ac am y tro cyntaf mae holl ysgolion Saesneg yr ardal, ynghyd â’r rhai Cymraeg, wedi cael gwahoddiad i berfformio.
Menter Iaith Casnewydd sy’n trefnu’r ŵyl, fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Medi 30.
“Mae’n gyfle i sefydliadau, mudiadau a’r gymuned leol ddathlu yn y Gymraeg,” eglura Dafydd Henry, Prif Swyddog Menter Iaith Casnewydd, wrth golwg360.
“Yn hanesyddol rydyn ni wedi bod yn cael perfformiwr mawr i gau’r ŵyl ond eleni rydyn ni wedi penderfynu gwahodd ysgolion Saesneg, yn ogystal â’r ysgolion Cymraeg lleol, a rhoi mwy o gyfle i’r bandiau yn yr ysgolion cyfun lleol.
“Roedden ni’n teimlo’i bod hi’n bwysig i ddathlu’r hyn sy’n lleol i ni, yn hytrach na gwahodd un o fandiau mawr Cymru draw o’r gogledd, o’r gorllewin neu o Gaerdydd, i roi cyfle i’r rhai sy’n dechrau creu eu marc rŵan yng Nghasnewydd a’r ardal – a’u dathlu nhw’n seiliedig ar y cysyniad bod yna lot mwy yn mynd ymlaen yn y Gymraeg yng Nghasnewydd nag mae pobol tu hwnt i Gasnewydd efallai yn ystyried.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Theatr Glan yr Afon, gan ddechrau am 11yb.
Yn ogystal â pherfformiadau ar y prif lwyfan gan ysgolion lleol a phobol ifanc, bydd yr ŵyl yn cynnwys gweithgareddau i deuluoedd a sgyrsiau gan siaradwyr gwadd.
Y Gymraeg ar gynnydd?
Mae Dafydd Henry yn teimlo bod mwy a mwy o frwdfrydedd tuag at y Gymraeg yng Nghasnewydd, ac mae’r ŵyl yn fwriadol yn fwy lleol eleni yn sgil y diddordeb hwnnw.
“Mae’r disgyblion i gyd yn gwneud mwy a mwy yn y Gymraeg [yn yr ysgol], nid yn unig eu bod nhw’n gorfod hyd at 16 oed ond mae yna fwy o bwyslais a mwy o awch efallai,” meddai.
“Mae agweddau yn araf bach yn symud tuag at ‘Dylen ni fod yn dathlu’n hunaniaeth, mi ddylen ni fod yn siarad yr iaith’.
“Efallai ddegawd yn ôl bod yna fwy o elyniaeth tuag at y Gymraeg, ond bellach rydyn ni’n teimlo’i bod hi’n bwysig i ni gynnwys yr ysgolion ffrwd Saesneg gan fod lot o’r plant yn frwd iawn dros yr iaith ac yn ystyried iaith Cymru’n rhan o’u hunaniaeth.
“Pryd bynnag rydyn ni’n cynnal gweithgareddau o ran Menter Iaith Casnewydd, mae pobol o bob un rhan o’r gymuned yn ymweld â ni,” meddai, gan egluro bod eu hymwelwyr dyddiol â’u huned yng Nghasnewydd yn dweud bod ganddyn nhw ddiddordeb yn yr iaith neu am yrru eu plant i ysgol Gymraeg.
“Er bod y Cyfrifiad yn gyffredinol o ran Cymru gyfan ychydig bach yn negyddol o gymharu â’r canlyniadau blaenorol, o ran yr hyn rydyn ni’n ei weld yn ymarferol, cynyddol ydy’r diddordeb a’r awch i ymwneud â’r iaith.
“Mae hyd yn oed gorsaf radio Newport City Radio wedi cysylltu efo ni am y tro cyntaf i wneud cyfweliad efo nhw.
“Fyswn i ddim yn dweud bod y [Gymraeg] y peth mwyaf blaenllaw yng Nghasnewydd, ond mae o bendant yn gynyddol ran o’r ddinas.”