Mae deiseb sy’n galw am dro pedol ar derfyn cyflymder 20m.y.a. newydd Cymru wedi casglu dros 70,000 o lofnodion mewn llai nag wythnos.

Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Mark Baker ddydd Mercher (Medi 13), ac roedd wedi casglu dros 50,000 o lofnodion erbyn bore Llun (Medi 18).

Roedd y ddeiseb wedi casglu dros 20,000 o lofnodion ychwanegol o fewn ychydig oriau, a hynny ar yr ail ddiwrnod ers i’r terfyn cyflymder newydd ddod i rym.

Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried cynnal dadl ar sail pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 o lofnodion.

Fandaleiddio

Ymateb cymysg sydd wedi bod i’r terfyn newydd ar y cyfan.

Er bod nifer yn ei gefnogi, mae rhai arwyddion cyflymder 20m.y.a. newydd eisoes wedi’u fandaleiddio mewn rhannau o Gymru, gan achosi dryswch i fodurwyr.

Mae sticeri â’r rhif tri wedi eu gosod dros ben y rhif dau ar rai arwyddion 20m.y.a., sy’n golygu bod modurwyr yn ansicr o’r terfynau cyflymder mewn rhai ardaloedd.

Daeth y polisi 20m.y.a. i rym ddoe (dydd Sul, Medi 17), ac mae Clwyd a Môn ymysg y siroedd lle mae fandaliaid wedi bod yn ymyrryd â’r arwyddion.

Dan y polisi, mae nifer fawr o ffyrdd oedd yn arfer bod â therfyn o 30m.y.a. yng Nghymru wedi’u haddasu i fod â therfyn o 20m.y.a., wrth i Lywodraeth Cymru ddadlau y bydd hyn yn achub bywydau ac yn gwarchod yr amgylchedd.

‘Diwedd ar gyfnod sosialaeth yng Nghymru’

Wrth egluro ei reswm dros sefydlu’r ddeiseb, dywed Mark Baker y “bydd y gyfraith newydd ynghylch y terfyn cyflymder o 20m.y.a. yn dod i rym ar Fedi 17, a chyda hynny y gwelir diwedd ar gyfnod sosialaeth mewn grym yng Nghymru”.

“Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod ganddi dystiolaeth sy’n ategu’r ddadl bod gostwng y terfyn cyflymder i 20mya YM MHOB MAN yn achub bywydau!” meddai.

“Ac eto, rydym yn gweld taflenni sydd ond yn honni y bydd hyn yn digwydd, ynghyd â sylwadau gan feddygon sy’n gweld pobol sy’n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

“NID yw hyn yn dystiolaeth.

“Daw’r unig wir dystiolaeth o Belfast, ac mae’r dystiolaeth honno’n datgan NAD OES DIM GWAHANIAETH o ran gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd!”

‘Llafur a Phlaid Cymru wedi gwrthod gwrando ar farn y cyhoedd’

Wrth sôn am y newyddion bod y ddeiseb bron â chyrraedd 50,000 o lofnodion erbyn bore Llun, dywedodd Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, fod “y terfyn cyflymder 20m.y.a. blanced newydd wedi bod ar waith am ddiwrnod yn unig ac mae pobol eisoes wedi cael digon ohono”.

“Mae mwy na 45,000 o bobol yn arwyddo deiseb o fewn 24 awr yn dangos maint y dicter cyhoeddus tuag at bolisi Llafur,” meddai.

“Mae hyn yn amlygu na fu fawr ddim ymgynghoriad â’r cyhoedd yn gyffredinol, mae’r Llywodraeth Lafur yn amlwg wedi osgoi pob craffu cyhoeddus mewn ymgais i wthio eu hagenda sosialaidd drwodd.

“Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi gwrthod gwrando ar farn y cyhoedd, ac maen nhw’n parhau i wthio’u hagenda gwrth-weithwyr, gwrth-ffordd a gwrth-fodurwyr.

“Gyda’r polisi chwerthinllyd hwn yn cael ei orfodi ar bobol Cymru, gall Llafur wneud tro pedol ar y cyflwyniad trychinebus hwn a chyflawni’r hyn y mae Cymru ei eisiau drwy gael gwared ar barthau blanced 20m.y.a. ledled Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y polisi.

“Mae cyflwyno terfyn cyflymder rhagosodedig o 20m.y.a. yn bolisi sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd,” meddai llefarydd.

“Mae lleihau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau ond hefyd yn gwella ansawdd bywyd, gan helpu i wneud ein strydoedd a’n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.”