Mae angen cosbi perchnogion cŵn yn hytrach na gwahardd brîd cyfan, yn ôl perchennog ci Bwli Americanaidd XL, sydd wedi bod yn siarad â golwg360.

Fe wnaeth Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyhoeddi dros y penwythnos fod y brîd am gael ei wahardd yn dilyn sawl ymosodiad yn ddiweddar.

Bu farw dyn ar ôl i Fwli Americanaidd XL ymosod arno yn Walsall yng ngorllewin canolbarth Lloegr ddydd Iau (Medi 14), ac fe wnaeth un arall ymosod ar ferch unarddeg oed yn Birmingham ddydd Sadwrn (Medi 16).

Bydd y Bwlis Americanaidd XL yn cael eu gwahardd erbyn diwedd y flwyddyn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ar ôl i waith gael ei wneud i ddiffinio’r brîd, yn ôl Rishi Sunak.

Fodd bynnag, mae perchnogion yn dweud eu bod nhw’n anifeiliaid anwes da, ac mae un perchennog yn dweud y gall unrhyw gi fod yn ymosodol os ydy’r perchennog yn eu dysgu nhw i fod felly.

“Dw i’n gweld o’n hollol wirion gwahardd y cŵn,” meddai Mared Williams, sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, wrth golwg360.

“Mae gen i fab dwy oed a babi bach arall ar y ffordd, ac mae Nala ni yn gi mor addfwyn, amddiffynnol o’n hogyn bach ni, erioed wedi troi ar neb.

“Mae yna lwyth o berchnogion allan yna yn trin cŵn yn wael, neu’n eu defnyddio nhw fel protection iddyn nhw eu hunain, a’u dysgu nhw i fod yn ymosodol.

“Y bobol yma sydd angen cosb, a dim y cŵn.”

Galw am gosbi perchnogion

Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaeth ci defaid frathu clust ci Mared Williams wrth iddyn nhw fynd am dro efo’i phartner, a’i mab, Alffi.

“Lwcus wnaeth o ddim cyffwrdd Alffi. Wnaeth Nala ddim yn ôl, dim ond sefyll yna yn calm,” meddai.

“Os fysa Nala heb fod ar dennyn, fysa hi wedi cael y bai yn syth am ei brîd hi, sydd mor drist achos mae Nala’n gi mor dda.

“Doedd yna ddim perchennog i’w weld na thennyn ar y ci, ac mae’n dangos hefyd fod pob Bwli XL ddim yn ymosodol a bod perchennog y ci arall yn warthus.

“Os ydy pobol am ddysgu cŵn i fod yn ymosodol, maen nhw’n mynd i fod.

“Mae o fel dysgu dreifio – os fysa chi’n dreifio rŵan a hitio rhywun, y dreifar fysa’n cael ei gosbi, a ddim y car yn cael ei banio.

“Felly pam ddylen nhw ddim cychwyn cosbi perchnogion y cŵn yn hytrach na banio y brîd, mae o’n hollol wirion ym marn fi.

“Mae unrhyw gi’n gallu bod yn ymosodol, brathu, bod yn gi gwael, os ydy’r perchennog yn dysgu nhw ffordd yna.”

Mae’r Dog Control Coalition, sy’n cynnwys yr RSPCA, Battersea Dogs Home a’r Royal Kennel Club, yn dweud nad gwahardd cŵn penodol ydy’r ateb, gan gyfeirio at “fridio, perchnogaeth a magu anghyfrifol”.

‘Mwy o reolaeth ar berchnogion’

Dywedodd Cai Williams o Ruddlan, sy’n berchen ar Fwli XL hefyd, eu bod nhw’n cael “enw drwg” oherwydd eu maint a bod y “bobol anghywir” yn eu prynu nhw.

“Mae’r un sydd gen i yn ffyddlon iawn, ac yn grêt efo pobol ac efo plant,” meddai Cai Williams wrth golwg360.

“Mwy o reolaeth ar bwy sydd yn cael prynu a brîdio nhw sydd angen, dim rhoi blanket ban ar y brîd i gyd.”

‘Gweithredu nawr’

Ynghyd â’r ymosodiadau diweddar, Bwli XL wnaeth ymosod ar Jack Lis, bachgen deg oed fu farw yng Nghaerffili yn 2021, ac mae ei fam wedi galw am eu gwahardd.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn dweud hefyd fod angen i San Steffan fwrw ymlaen â’r gwaharddiad arnyn nhw cyn gynted â phosib.

“Bydd rhai pobol yma yn cofio bod plentyn deg oed wedi marw yng Nghaerffili yn 2021,” meddai Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf.

“Mynychais Wobrau Dewrder Ffederasiwn yr Heddlu yn Llundain ar ddechrau toriad [y Senedd], a chafodd y tîm bach o swyddogion heddlu fynychodd y digwyddiad cwbl ofnadwy hwnnw eu henwebu am Wobr Dewrder Cenedlaethol.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i allu siarad â nhw am yr hyn roedden nhw wedi’i weld y noson honno, a sut roedden nhw wedi helpu eraill i ddelio ag e.

“Fe ysgrifennon ni at Lywodraeth y Deyrnas Unedig bryd hynny yn eu hannog i gryfhau’r amddiffyniadau yn y gyfraith yn erbyn yr hyn roedden ni wedi’i weld.

“Nid yw Deddf Cŵn Peryglus 1991 wedi’i datganoli – mae hi yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n credu y dylen nhw fod wedi gweithredu eisoes, ac rwy’n sicr yn credu bod angen iddyn nhw weithredu nawr.”

Yn ôl prif swyddog milfeddygol y Deyrnas Unedig, bydd rhaid i berchnogion gofrestru eu cŵn a chymryd rhai camau fel cael yswiriant, eu rhoi ar dennyn a gwisgo penffrwyn.

Os yw pobol yn cadw at y gofynion hynny, byddan nhw’n cael cadw eu cŵn, meddai Christine Middlemiss.

Pan gafodd y Ddeddf Cŵn Peryglus ei phasio yn 1991, daeth bridio, gwerthu a rhoi bridiau wedi’u gwahardd i eraill yn anghyfreithlon, ac roedd “cyfnod amnest” i ganiatáu i berchnogion eu cadw dan amodau penodol.

Pan ddaeth y cyfnod hwnnw i ben, roedd hi’n anghyfreithlon eu cadw nhw oni bai am rai eithriadau.