Yng Nghymru mae chwech o’r deg ardal yn y Deyrnas Unedig lle llifodd y swm mwyaf o wastraff i mewn i afonydd yn 2022.
Cafodd gwastraff ei ollwng am dros 300,000 awr i afonydd a dyfroedd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn.
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oedd yr ardal waethaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y data gan Top of the Poops, gyda Dwyfor Meirionnydd yn drydydd a Phreseli Penfro’n bedwerydd.
Roedd etholaeth Ogwr yn seithfed ar y rhestr, Ceredigion yn nawfed, Brycheiniog a Maesyfed yn ddegfed, a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro’n unfed ar ddeg.
Mae Aberconwy a Nedd ymhlith yr ugain uchaf hefyd.
‘Gwarthus’
Wrth ymateb i’r rhestr, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod Dŵr Cymru’n gyfrifol am 89 achos o lygredd gwastraff yn 2022.
“Mae’n warthus mai yng Nghymru mae chwech o’r deg ardal gyda’r mwyaf o wastraff yn llifo i afonydd y llynedd,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.
“Mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi gwrthod gweithredu yn erbyn llifogydd mewn afonydd, ac mae gweinidogion Llafur ym Mae Cymru wedi methu ymateb a herio Dŵr Cymru ar lygredd mewn afonydd a biliau dŵr uwch.
“Mae’n amser am newid, a rhaid i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd ddal gafael ar fethiant Dŵr Cymru i warchod ein hafonydd.”