Mae Archwilio Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â’r parciau cenedlaethol er mwyn arallgyfeirio’r cyllid sydd ar gael i’w diogelu a’u hyrwyddo.

Ynghyd ag adroddiad, mae Archwilio Cymru hefyd wedi cyhoeddi adnodd hunanasesu i helpu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol wrth iddyn nhw fynd ati i arallgyfeirio’u hincwm.

Fel llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau sylweddol o ran eu cyllidebau.

Ynghyd â gofynion a disgwyliadau cynyddol, mae hi’n dod yn fwyfwy anodd iddyn nhw gyflawni eu swyddogaethau allweddol.

Yn 2022-23, cafodd tri adroddiad eu cyhoeddi ar sut mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru’n arallgyfeirio eu ffrydiau incwm i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu gwaith yn erbyn dibenion statudol.

Y tri pharc cenedlaethol yng Nghymru

Mae’r adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi’n edrych ar rai o’r themâu allweddol sy’n effeithio ar y tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru – Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro – ac i ba raddau mae’r Awdurdodau’n arallgyfeirio eu hincwm.

Yn ôl yr adroddiad, dydy’r un ohonyn nhw wedi gosod dull strategol clir o arallgyfeirio incwm, ac mae angen rhagor o waith er mwyn gwneud hyn yn flaenoriaeth.

Mae ystyriaethau moesegol pwysig hefyd wrth werthuso opsiynau, ac mae angen i drefniadau llywodraethu fod yn ddigon ystwyth a chadarn i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu incwm yn y dyfodol yn effeithiol, medd yr adroddiad.

Mae’r adroddiad yn tynnu ar dystiolaeth o rai o Barciau Cenedlaethol Lloegr, gyda rhai ohonyn nhw yn gwneud mwy o waith masnachol er mwyn cefnogi gwasanaethau allweddol.

Mae amrywio incwm yn llwyddiannus yn galw am adolygu portffolios asedau gan yr Awdurdodau er mwyn nodi cyfleoedd incwm addas – a dyma un o chwe ‘bloc adeiladu’ yn adroddiad Archwilio Cymru.

Yn ôl Archwilio Cymru, gall y camau hyn helpu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i ddatgloi manteision a lleihau peryglon sy’n gysylltiedig ag arallgyfeirio incwm.

Y dyfodol

Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried gwahanol ffynonellau cyllid.

Mae’n nodi bod Awdurdodau Parciau Cenedlaethol mewn sefyllfa unigryw i adeiladu ar hanes cryf o weithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiectau gaiff eu hariannu gan grant.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol hefyd wrth gefnogi Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, yn ariannol ac o ran canllawiau a chyfarwyddyd, i helpu i gyflawni’r disgwyliadau a osodwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, medd yr adroddiad.

Ochr yn ochr â’r adroddiadau, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi rhestrau gwirio hunanasesu maen nhw’n argymell y dylai pob Awdurdod eu defnyddio i nodi eu cryfderau a’u gwendidau.

Bydd hyn yn helpu i lywio eu strategaethau yn y dyfodol ar arallgyfeirio incwm.

“Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn wynebu her anodd wrth ddarparu gyda llai o gyllid,” meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

“Fel gwarcheidwaid tirweddau harddaf ein cenedl, mae’n bwysig eu bod yn cydbwyso’r angen i arallgyfeirio eu ffrydiau incwm â chyflawni eu dibenion craidd.

“Mae fy adroddiad heddiw yn crynhoi canfyddiadau ein hadolygiad ac yn cefnogi Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar y daith hon.”