Draig fawr fydd yn arwain gorymdaith annibyniaeth Bangor ddydd Sadwrn (Medi 23).
Mae’r ddraig, sy’n ddeg metr o hyd, wedi cael ei chreu gan Small World Theatre a dyma’r tro cyntaf iddi arwain un o orymdeithiau annibyniaeth Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru).
Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn yr orymdaith yn ymgynnull gyda’u baneri a’u posteri ym Maes Parcio Glanrafon am 11 o’r gloch, a bydd yr orymdaith yn dechrau am 1 o’r gloch.
Bydd y ddraig yn tywys y dorf drwy’r Stryd Fawr tuag at Ffordd Glynne ac yna i lawr Ffordd Deiniol, gan ddychwelyd i Faes Parcio Glanrafon.
‘Gallwn anelu’n uwch fel cenedl’
Dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, y gall Cymru “anelu’n uwch fel cenedl” na’r drefn bresennol.
“Rydw i’n edrych ymlaen i ymuno unwaith eto â miloedd o bobol a datgan yn glir ein cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru, y tro yma ym Mangor,” meddai.
“Nid dyma’r gorau all hi fod i Gymru – gallwn anelu’n uwch fel cenedl, ac yn wir mae’n rhaid i ni wneud hynny.
“Mae’n glir i mi bod gennym gymaint i’w gynnig – yn ein pobol, ein hadnoddau naturiol, yn ein hynodrwydd, ein menter gymunedol a’n dyfeisgarwch.
“Fe all Cymru sefyll ar ei dwy droed ei hun.
“Mae annibyniaeth yn gyflwr arferol i wlad fodoli ynddi, a dyna’r ydan ninnau’n anelu amdano.
“Rydw i’n gyffrous am fy rôl i fel arweinydd Plaid Cymru – i geisio argyhoeddi mwy a mwy o bobol pam ein bod ni ar y siwrne hon tuag at Gymru annibynnol – tuag at Gymru sy’n fwy ffyniannus, yn decach, yn wyrddach ac yn fwy uchelgeisiol.”
‘Unedig yn ein nod o greu Cymru well’
“Mae’r Orymdaith ym Mangor ddydd Sadwrn yn gyfle i gefnogwyr annibyniaeth ddod at ei gilydd, yn unedig yn ein nod o greu Cymru well,” meddai Geraint Thomas, un o’r trefnwyr.
“Oherwydd y niferoedd digynsail o bobol y disgwylir iddyn nhw fynychu’r orymdaith, mae Heddlu’r Gogledd a Chyngor Gwynedd wedi gofyn i bobol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd ac i gyrraedd mewn da bryd.
“Rwy’n falch iawn y bydd Gwynedd unwaith eto yn cynnal gorymdaith dros annibyniaeth AUOBCymru ac YesCymru.
“Daeth dros 8,000 i’r orymdaith yng Nghaernarfon nôl yn 2019, rydym yn obeithiol y bydd mwy o bobol fyth ym Mangor y tro hwn.
“Mae’r disgwyliadau yn uchel wrth i ni baratoi i groesawu unigolion o bob rhan o Gymru i Fangor.
“Fel trefnwyr, rydym yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau y bydd hon yn un o’r gorymdeithiau gorau eto!”
Ar ôl yr orymdaith, bydd rali ym maes parcio Glanrafon, i ddechrau erbyn tua 2 o’r gloch, lle bydd sgrin fawr, siaradwyr a cherddoriaeth fyw – yn eu plith fydd Rhun ap Iorwerth, Sera Cracroft, Joseph Gnagbo, Bryn Fôn a Fleur De Lys, gyda Karen Wynne yn llywio’r cyfan.
“Mae’r orymdaith dros annibyniaeth ym Mangor ddydd Sadwrn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad bythgofiadwy,” meddai Sera Cracroft.
“Mae’r Ddraig yn symbol o’n hysbryd tanllyd a’n hymrwymiad diwyro i Gymru annibynnol, ac wrth i ni orymdeithio trwy Fangor, byddwn ni’n cario gyda ni obeithion a breuddwydion cenedl sy’n benderfynol o lunio ei llwybr ei hun tuag at annibyniaeth.”
Mae’r gorymdeithiau blaenorol yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam, Caerdydd, ac yn fwyaf diweddar Abertawe, wedi denu torfeydd o hyd at 10,000 o bobol, gan amlygu’r diddordeb cynyddol yn yr ymgyrch dros annibyniaeth.
Marchnad Annibyniaeth a Digwyddiadau Ffrinj
Bydd Marchnad Annibyniaeth yn cael ei chynnal ar yr Hen Lain Fowlio ger y maes parcio rhwng 10yb a 4yp, lle bydd cyfle i weld amrywiaeth o sefydliadau a busnesau lleol.
Yn dilyn y rali, bydd prynhawn o ganu gwerin yn cael ei gyflwyno rhwng 3-5yp yn Nhafarn y Glôb ym Mangor Uchaf.
Bydd gig yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, gyda pherfformiadau gan Fleur De Lys, Tara Bandito, 3 Hwr Doeth, a Maes Parcio, ac mae tocynnau ar gael o’r lleoliad.
Gall y rhai sydd am ymuno â’r sgwrs wneud hynny ar dudalen y digwyddiad ar Facebook dudalen y digwyddiad ar Facebook a thrwy ddefnyddio’r hashnodau #Annibyniaeth ac #indyWales ar y cyfryngau cymdeithasol.