Bydd un o weinidogion Sbaen yn amddiffyn yr angen i’r Gatalaneg, Basgeg a Galiseg dderbyn statws swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ar drothwy cyfarfod pwysig ym Mrwsel i drafod statws ieithoedd brodorol Sbaen, dywedodd José Manuel Albares, y gweinidog tramor dros dro, nad ydyn nhw’n “ieithoedd lleiafrifol”.
Daw’r cyfarfod yn dilyn cais gan Lywodraeth Sbaen i’r ieithoedd dderbyn statws swyddogol yn Ewrop.
“Mae dros ddeg miliwn o siaradwyr Catalaneg, sy’n fwy na rhai ieithoedd swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai José Manuel Albares.
“Mae amlieithrwydd yn un o’r rhesymau pam fod yr Undeb Ewropeaidd yn bod.”
Y cyfarfod a’r cynnig
Tra bod agenda arfaethedig y cyfarfod yn cynnwys mabwysiadu’r cynnig, mae hi’n annhebygol y bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar y mater,
Mae hyn yn sgil amheuon economaidd, cyfreithiol a gwleidyddol ac y gallai’r mater godi’i ben ymhlith cymunedau o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol eraill.
Yn ôl rhai, mae “nifer o gwestiynau heb eu hateb” o hyd.
Ond doedd dim gwrthwynebiad i’r cynnig mewn cyfarfod o lysgenhadon ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl “trafodaeth adeiladol” yn y cyfarfod diweddaraf heddiw (dydd Mawrth, Medi 19).
Byddai newid polisi ieithyddol yr Undeb Ewrop yn gofyn am gefnogaeth unfrydol gan y 27 gwlad sy’n aelodau.
Ond mae nifer o wledydd yn dymuno arafu’r broses yn sgil nifer o amheuon, tra bod Sbaen yn gwthio am bleidlais cyn gynted â phosib.
Mae Sbaen yn dweud y byddan nhw’n talu’r gost o roi statws swyddogol i’r ieithoedd, a gallai hynny leddfu rhywfaint ar bryderon gwledydd fel yr Almaen, yr Iseldiroedd ac Awstria.