Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu bod statws cyfartal yn cael ei roi i ddirwyon parcio Cymraeg, eu bod nhw’n cael eu hanfon yr un pryd, a’u bod nhw yr un mor “gywir a chyflawn” â dirwyon sy’n cael eu hanfon yn Saesneg.

Daw hyn wrth i Rhun Fychan o Aberystwyth wrthod talu dirwy.

Ar ôl derbyn yr hysbysiad gwreiddiol gan New Generation Parking Management ar Awst 15 am beidio â thalu i barcio ym marina Aberystwyth, mynnodd ei fod yn derbyn hysbysiad tâl parcio yn Gymraeg, ar ôl derbyn hysbysiad uniaith Saesneg.

Er iddo fe dderbyn hysbysiad Cymraeg yn y pen draw, mae’n gwrthod talu’r ddirwy o hyd gan fod y Gymraeg yn wallus, ac yn ei gyfeirio at y Saesneg pe bai camgymeriad neu aneglurder ar yr hysbysiad Cymraeg.

Dywedodd y cwmni parcio eu bod nhw “wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y cyfieithiad”, ond nad oes modd iddyn nhw “sicrhau cywirdeb llwyr y cyfieithiad”, ac y dylid “cyfeirio at y ddogfen wreiddiol yn y post” pe bai unrhyw gamgymeriadau.

“Mae’n ymddangos i mi fel petai’r copi Cymraeg wedi’i hysgrifennu gan beiriant, a’n sicr heb gael ei wirio gan siaradwr Cymraeg go iawn,” meddai.

“Faint o drafferth fyddai wedi bod i dalu cyfieithydd i ddarparu copi eglur, o safon?

“Mae’r ffaith hefyd bod y ddirwy’n cyfeirio at y Saesneg fel y fersiwn cywir yn gosod y Gymraeg yn eilradd.

“Tydw i’n sicr ddim yn teimlo bod fy hawl i ddefnyddio fy iaith fy hun wedi cael ei barchu.”

‘Nid er mwyn ticio bocsys yn unig’

Yn ôl Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, mae’r cwmni parcio, “fel sawl cwmni arall ledled Cymru, wedi dangos amharodrwydd i drin ein hiaith gyda pharch”.

“Mae angen i hysbysiadau tâl parcio Cymraeg fod yr un mor gywir a chyflawn â rhai Saesneg, a chyrraedd yr un mor brydlon ac yn ddi-ofyn,” meddai.

“Nid er mwyn ticio bocs yn unig y dylid arfer y Gymraeg.

“Galwn unwaith eto ar Jeremy Miles i ddiwygio Mesur Iaith 2011 i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal gan y sector breifat, fel cwmnïau meysydd parcio, archfarchnadoedd, banciau a sectorau eraill.

“Galwn hefyd ar bobol i beidio talu hysbysiadau tâl parcio uniaith Saesneg neu rai sydd yn gwneud y Gymraeg yn eilradd nes bod newid yn y gyfraith.”

Achos tebyg

Daw’r achos hon ddeufis a hanner wedi i Toni Schiavone ymddangos gerbron llys yn Aberystwyth am wrthod talu dirwy uniaith Saesneg gan gwmni parcio One Parking Solution.

Cafodd yr achos ei daflu allan o’r llys gan nad oedd One Parking Solution wedi’i gyflwyno mewn digon o bryd nac o dan y rheolau cywir.

Ers yr achos llys, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal ymgyrch i wrthod talu ffioedd mewn meysydd parcio ag arwyddion Saesneg yn unig, na’r hysbysiadau tâl parcio uniaith Saesneg a ddaw yn sgil hyn.

Llys yn taflu achos Toni Schiavone allan unwaith eto

Bu’r ymgyrchydd yn y llys yn Aberystwyth ar ôl derbyn dirwy parcio uniaith Saesneg