Mae achos One Parking Solution yn erbyn yr ymgyrchydd Toni Schiavone wedi cael ei daflu allan o’r llys unwaith eto.
Daeth penderfyniad y barnwr gan i’r cwmni parcio oedi gormod cyn lansio’r apêl a chyflwyno’r achos dan reolau anghywir.
Aeth yr ymgyrchydd gerbron y llys yn yr achos gwreiddiol fis Mai y llynedd, gan iddo wrthod talu dirwy parcio uniaith Saesneg, ond doedd neb yno i gynrychioli’r cwmni parcio ac fe gafodd ei daflu allan.
Er bod cwnsel yn bresennol ar ran y cwmni, cafodd yr achos ei daflu allan eto heddiw yn sgil mater technegol.
‘Mwy nag y byddai wedi’i gostio i gyfieithu’
Yn ôl Toni Schiavone, wrth siarad yn y llys, mae dwyn achos yn ei erbyn wedi costio mwy nag y byddai wedi’i gostio i One Parking Solution gyfieithu’r ddirwy.
“Ac mae’r gost o gynnal yr achos llys ganwaith yn fwy na’r gost o ddarparu llythyr dirwy Cymraeg,” meddai.
“Mae agwedd y cwmni wedi bod yn hollol ddirmygus ac yn hollol groes i hawliau siaradwyr Cymraeg.”
Gorchmynnodd y barnwr fod rhaid i One Parking Solution dalu costau teithio Toni Schiavone, a ddywedodd y byddai’n rhoi’r arian i elusen Ymchwil Canser Cymru.
“Rydym yn falch bod y barnwr heddiw wedi dyfarnu o blaid y diffynydd, fel yn yr achos debyg ddiweddar yng Nghaernarfon, pan ddyfarnodd Mervyn Jones-Evans nad oedd rhaid i ddiffynydd dalu dirwy uniaith Saesneg,” meddai Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen i’r cwmniau newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg.
“Er mwyn rhoi pwysau arnyn nhw rydyn ni wedi lansio ymgyrch heddiw i annog pobl i beidio talu am barcio mewn meysydd parcio lle mae’r arwyddion yn uniaith Saesneg, na’r dirwyon sy’n deillio o hynny.”
Mae’r Gymdeithas yn galw am Safonau yn y maes ac ar gyfer busnesau eraill fel archfarchnadoedd a banciau fel bod rheidrwydd i’r sector breifat weithredu yn Gymraeg.