Mae sefyllfa Donald Trump a’i achos llys yn “dangos sut mae’r wlad yn rhanedig ac yn hollt”, yn ôl y newyddiadurwraig Maxine Hughes.

Ddoe (dydd Iau, Awst 3), plediodd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau’n ddieuog i gyhuddiadau yn ei erbyn, a’r rheiny’n ymwneud â cheisio atal trosglwyddo grym i Joe Biden yn dilyn etholiad arlywyddol 2020.

Roedd Maxine Hughes y tu allan i’r llys yn Washington DC.

“Mae yna gymaint o bobol y tu allan i’r llys yma, mae yna gyfryngau ym mhob man ac o bob man – rydw i’n meddwl fy mod i wedi clywed bron bob iaith yn y byd y cael ei siarad gyda’r gohebwyr sy’n fan hyn,” meddai wrth golwg360 o’r tu allan i’r llys.

“Eto, mae cyfryngau’r byd yn dilyn beth sy’n digwydd efo Donald Trump, un sydd wedi bod allan o’r Tŷ Gwyn am flynyddoedd rŵan ac mae dal yn arwain y penawdau.”

Dywed ei bod hi yn Efrog Newydd a Miami pan gafodd Donald Trump ei arestio yno, ond fod y sefyllfa’n “teimlo tipyn bach yn wahanol” y tro hwn.

“Mae diogelwch yn fater sydd yn ddifrifol iawn, mae yna lawer iawn o heddlu o gwmpas, a thensiwn yn bendant,” meddai.

“Rydw i’n meddwl bod yr ymosodiad ar y Capitol yn chwarae rhan yn hynny.

Dywed fod modd gweld y Capitol, lle’r oedd ymosodiad ar Ionawr 6 y llynedd ac yn y fan lle’r oedd hi’n sefyll, a “bod yna rhywbeth difrifol iawn am hynna” a’r ffaith fod Donald Trump yn ôl yn y llys yn sgil y mater.

Beth yw’r cyhuddiadau?

Mae’r cyn-arlywydd yn wynebu pedwar cyhuddiad troseddol “difrifol iawn”, ac roedd yr achos llys ddoe yn ymwneud â’r honiadau ei fod e wedi ceisio atal trosglwyddo grym i Joe Biden, oedd wedi ei olynu.

Roedd y Gweriniaethwr Donald Trump yn dadlau bod y Democratiaid, y blaid mae Joe Biden yn ei chynrycholi, wedi dwyn yr etholiad, ac mae wedi cael ei gyhuddo o annog pobol i fynd i brotestio yn y Capitol.

Yn ôl Maxine Hughes, mae’r honiadau’n awgrymu bod Donald Trump wedi “bygwth democratiaeth America”.

“Mae’n broblem fawr, mae’n dangos sut mae’r wlad yma’n rhanedig ac yn hollt; mae Donald Trump dal yn arwain ar y dde,” meddai.

“Mae yn bosib y byddwn ni’n gweld Donald Trump y flwyddyn nesaf yn rhedeg am yr arweinyddiaeth.

“Felly, mae’n sefyllfa ddigynsail ac yn un anodd iawn i’r wlad.

“Does yna ddim ateb rili, a does dim ffordd i uno’r wlad yma ar hyn o bryd.”

Ymgyrchwyr tu allan i'r llys yn Washington DC (gan Maxine Hughes)
Ymgyrchwyr tu allan i’r llys yn Washington DC (gan Maxine Hughes)

‘Y Trump go iawn neu berfformiad?’

Fe wnaeth Maxine Hughes gyfweld â Donald Trump yn ddiweddar ar gyfer y rhaglen Trump: Byd Eithafol ar S4C, ac mae hi’n dweud mai fe yw un o’r bobol anoddaf iddi ei gyfweld erioed.

“Mae Donald Trump yn ddyn busnes,” meddai.

“Pan ydych chi’n cyfarfod Donald Trump, mae’n dod ar draws fel y mae o ar y teledu.

“Doeddwn i ddim yn siŵr os mai’r Donald Trump go iawn neu berfformiad, neu ychydig bach o’r ddau oedd o.

“Mae o yn gallu perfformio i bobol ac mae o wedi cyffwrdd pobol yn y wlad yma, mae o’n bwerus iawn ac yn boblogaidd iawn.”

Yn ôl y newyddiadurwraig, “mae’n mynd i fod yn anodd iawn i’r Democratiaid gael gwared â Donald Trump”.

“Hyd yn oed os ydyn nhw’n ffeindio Donald Trump yn euog, neu hyd yn oed os ydi o’n mynd i garchar, mae ganddo fo dal yr hawl i redeg yn yr etholiad; mae hynny yn rhywbeth sydd yn bodoli yn America,” meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl y bydd Donald Trump jest yn stopio, mae o wedi addo parhau i ymgyrchu, a dw i’n meddwl mai dyna fydd o’n wneud.”