Mae cais ar gyfer safle newydd i Deithwyr ger pentref Pen-y-fai wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r safle i’r de o’r M4, ar ochr ddwyreiniol Old Coachman’s Lane, ac mae’n ddarn trionglog o dir sy’n mesur oddeutu 0.16 hectar.

Bydd yn cael ei ddatblygu gan Hayston Developments & Planning Ltd, allai greu iard lety ar gyfer pobol sy’n ymwneud â sioeau teithiol, gan gynnwys tri chaban symudol neu garafan, dwy ystafell ddydd gyffredin, a gweithfeydd cysylltiedig.

Pryderon

Roedd y Cynghorydd Heidi Bennett o Ben-y-fai wedi gwneud cais y dylai’r pwyllgor rheoli datblygiadau benderfynu ar y cais yn dilyn pryderon gan etholwyr ynghylch amrywiaeth o faterion, megis diogelwch ar briffyrdd ac i gerddwyr.

Clywodd cynghorwyr hefyd fod chwe llythyr o wrthwynebiad wedi’u derbyn gan drigolion yn ystod y cyfnod ymgynghori, gyda phryderon eraill ynghylch gweladwyedd y safle, diffyg parcio a tharfu ar lwybr cyhoeddus.

Ond dywedodd swyddogion nad oedd unrhyw wrthwynebiad gan bobol arbenigol ymgynghorwyd â nhw ar y materion, gan ychwanegu fod y cais yn gyson ag asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr y Cyngor gafodd ei gwblhau yn 2020, oedd wedi nodi bod angen darparu saith lle erbyn 2033.

Cafodd y cynnig ei dderbyn trwy bleidlais gafodd ei chofnodi, gyda phob cynghorydd ond un yn pleidleisio o blaid, gan gymeradwyo’r datblygiad yn unol ag amodau megis cyfyngu nifer y carafanau ar y safle i bedair ar unrhyw adeg.