Bydd Heddlu’r Gogledd yn dosbarthu bandiau braich i blant rhag ofn iddyn nhw fynd ar goll yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Moduan o ddydd Sadwrn (Awst 5) tan ddydd Sadwrn nesaf (Awst 12).
Bydd y bandiau braich rhad ac am ddim ar gael i rieni o stondin yr heddlu (rhif 120-121), a bydd gofyn iddyn nhw ysgrifennu eu rhif ffôn arnyn nhw.
Bydd y stondin ar agor bob dydd rhwng 9yb a 6yh.
Drwy gydol yr wythnos, bydd yr heddlu ar gael i siarad â phobol am faterion cymunedol, cyfleoedd am swyddi, diogelwch a gwarchod pobol ifanc ar-lein, a bydd modd clywed am fentrau ac ymgyrchoedd presennol yr heddlu, a chyfle i gwrdd â thimau amrywiol yr heddlu.
Bydd y tîm Troseddau Gwledig hefyd ar y Maes, wrth iddyn nhw baratoi i ddathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed fis nesaf.
‘Llwyfan gwych i ymgysylltu ag ymwelwyr’
Yn ôl y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn “llwyfan gwych i ni gael ymgysylltu ag ymwelwyr”.
“Hon fydd fy Eisteddfod gyntaf yn Brif Gwnstabl, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at amsugno’r awyrgylch,” meddai.
“Bydd yna lawer o bethau cyffrous a hwyliog i’w gwneud ar y stondin, felly os ydych chi’n bwriadu ymweld â ni eleni, pam na wnewch chi alw draw am sgwrs.
“Mae ymgysylltu’n agos â’n cymunedau’n allweddol i wneud i bobol deimlo sicrwydd a’n bod ni’n gwrando ar eu hanghenion, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad.”
Cyngor i ymwelwyr â’r Eisteddfod
Mae rhybudd i yrwyr y bydd y ffyrdd yn brysurach nag arfer yn sgil yr Eisteddfod ym Moduan, a bod oedi’n debygol.
Mae’r Cyngor, yr Eisteddfod a’r heddlu’n galw ar bobol sy’n mynd i’r Eisteddfod, yn bobol leol neu’n ymwelwyr, i gynllunio cyn teithio, dilyn yr arwyddion fydd yn eu lle a chymryd gofal wrth yrru ger y Maes gan y bydd cerddwyr yno hefyd.
Bydd goleuadau dros dro yn eu lle ger y Maes hefyd, a bydd rhai ffyrdd ynghau.