Mae’r Deyrnas Unedig wedi gweld y cwymp mwyaf yn y nifer o bobl sy’n gwylio teledu traddodiadol, nid-ar-alw, yn ôl Ofcom.
Mae’r data yn rhan o ganfyddiadau’r Adroddiad Cyfryngau’r Genedl 2023, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Awst 3).
Rhwng 2021 a 2022, roedd cwymp yn nifer y bobol oedd yn gwylio darlledwyr cyhoeddus, o 83% i 79%.
Er hynny, dywed Ofcom mai BBC One ac ITV1 oedd y platfformau mwyaf poblogaidd, gyda Netflix yn drydydd.
Roedd cynnydd hefyd yng ngwylwyr y gwasanaethau ar-alw BBC iPlayer ac ITVX.
Roedd digwyddiadau mawr yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd sylweddol, gydag 16.1m o bobol yn gwylio rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd FIFA, ac 13.2m yn gwylio angladd y Frenhines Elizabeth II.
Yn ôl Yih-Choung Teh, cyfarwyddwr grŵp strategaeth ac ymchwil Ofcom, roedd gostyngiad hefyd yn nifer y bobol fu’n gwylio teledu traddodiadol o fewn y genhedlaeth hŷn.
“Mae gan wylwyr a gwrandawyr heddiw fath o bwffe ‘popeth y gallwch chi ei fwyta’ o ddarlledu a chynnwys ar-lein i ddewis o’u plith, ac mae mwy o gystadleuaeth am sylw nag erioed,” meddai.
“Mae ein darlledwyr traddodiadol yn gweld gostyngiadau serth yn nifer y gwylwyr sy’n gwylio eu rhaglenni byw, gan gynnwys ymhlith y cynulleidfaoedd hŷn – ac nid oes gan raglenni sebon a newyddion y pŵer i dynnu cynulleidfa dorfol a oedd ganddynt ar un adeg.
“Ond er gwaethaf hyn, mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus dal yn dod â’r genedl at ei gilydd ar adegau diwylliannol a chwaraeon pwysig.”
Radio’n ‘ffynnu’
Stori wahanol yw’r radio, sy’n “parhau i ffynnu”, gydag 88% o oedolion yn gwrando am ugain awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Yr amser cyfartalog roedd pobol yn ei dreulio yn gwylio cynnwys fideo neu deledu byw ar draws pob dyfais oedd pedair awr a 28 munud.
Mae hyn tua 12% yn is na’r ffigwr yn 2021, lle roedd cyfyngiadau Covid yn dylanwadu ar arferion gwylio’r genedl.
Roedd 60% o’r cynnwys fideo gafodd ei wylio yn dod gan ddarlledwyr, tra bod y 40% arall yn cynnwys llwyfannau rhannu fideos megis YouTube.
Er i wasanaethau ffrydio herio rhai sianeli teledu traddodiadol, roedd gostyngiad hefyd yn nifer y bobol oedd yn tanysgrifio i wasanaethau fideo ar-alw.
Mae’n debyg fod hyn yn ganlyniad i amryw o ffactorau, gan gynnwys prisiau cynyddol, yr argyfwng costau byw, a’r gystadleuaeth gynyddol o fewn y sector.
Yn ystod y pandemig, roedd 68% o aelwydydd y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod yn tanysgrifio i o leiaf un gwasanaeth ffrydio.
Erbyn hyn, mae’r ffigwr wedi cwympo i 66%, sy’n cyfateb i ryw 19m o aelwydydd.
Roedd mwy o bobol yn troi at fideos ffurf-fer ar-lein hefyd, gyda mwy na thraean o oedolion yn eu gwylio.
Roedd fideos newyddion ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd, gyda 63% o’r oedolion oedd yn gwylio cynnwys ffurf-fer o leiaf unwaith y mis yn eu gwylio.
Roedd 59% yn gwylio fideos wedi eu huwchlwytho gan y cyhoedd.