Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cynrychioli Cymru yn y Fforwm Celtaidd a’r Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Llydaw yr wythnos hon.

Bydd y Fforwm yn dechrau ddydd Iau (Awst 3), ar drothwy’r Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Lorient ddydd Gwener (Awst 4).

Mae’r Fforwm yn dod ag arweinwyr y gwledydd a rhanbarthau Celtaidd ynghyd er mwyn cryfhau perthnasau a thrafod meysydd cyffredin ar gyfer cydweithio posib, a bydd Mark Drakeford yn cynnal cyfarfodydd ag arweinwyr eraill yno.

Yr Ŵyl Ryng-Geltaidd yw’r dathliad blynyddol mwyaf o ddiwylliannau’r gwledydd Celtaidd, gyda cherddoriaeth, dawns a’r celfyddydau gweledol, chwaraeon a bwyd yn cael llwyfan.

Denodd yr ŵyl oddeutu 900,000 o bobol dros gyfnod o ddeng niwrnod y llynedd.

Cynrychioli Cymru

Yn cynrychioli Cymru fel rhan o ddathliadau blwyddyn Cymru yn Ffrainc eleni fydd y grwpiau gwerin VRï a The Trials of Cato, ynghyd â chôr Only Boys Aloud a’r delynores Meinir Olwen.

Bydd arddangosfa o waith y ffotograffydd Scott Taylor, a chynhyrchiad dawns Qwerin yn Théâtre de Lorient hefyd.

“Mae’r Fforwm Celtaidd yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd fel gwledydd a rhanbarthau Celtaidd, i adeiladu ar ein cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol a chwilio am feysydd i gydweithio arnynt yn y dyfodol, fel ynni morol,” meddai Mark Drakeford.

“Cyn Cwpan Rygbi’r Byd yn ddiweddarach eleni, mae hefyd yn gyfle i ddathlu perthynas Cymru a Ffrainc, adfywio partneriaethau presennol a phlannu’r hadau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol mewn diwylliant, chwaraeon, yr economi ac arloesedd.”

Datblygiad a hyder y celfyddydau a’r diwylliant

Dywed Antwn Owen-Hicks, arweinydd dirprwyo Cymru yn yr Ŵyl Interceltique de Lorient, fod yna “amrywiaeth gref o artistiaid yn ein cynrychioli yn Lorient, sy’n adlewyrchu’r datblygiad parhaus a’r hyder yn ein celfyddydau a’n diwylliant”.

“Mae bob amser llawer o ddiddordeb yn yr artistiaid Cymreig ymhlith mynychwyr yr ŵyl,” meddai.

“O ganeuon Only Boys Aloud i berfformiadau’r delyn deires anhygoel Cerys Hafana, neu hwyl dawnsio gwerin stryd cwiar Qwerin, bydd ein rhaglen eleni yn gyfle i ddarganfod talentau a diwylliant Cymru gan ddenu’r gynulleidfa i ymweld â Chymru.”