Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, yn mynnu y gallai annibyniaeth ddatrys y diffyg cytundeb wrth i Sbaen geisio ffurfio llywodraeth ar hyn o bryd.
Mae’n galw ar Pedro Sánchez i “symud” os yw e am gael ei ailethol ar ôl yr etholiad cyffredinol, ac mae hynny’n cynnwys gweithredu ar “ymrwymiadau sefydledig” i roi terfyn ar fylchau ariannol, isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hefyd yn galw am roi’r gorau i “ormes” yn erbyn y mudiad annibyniaeth, ac i geisio datrys diffyg cytundeb i ffurfio llywodraeth drwy gynnal refferendwm ar ddyfodol Catalwnia, hynny yw refferendwm annibyniaeth.
Mae Pwyllgor Gwaith Catalwnia wedi cadarnhau cyswllt “cychwynnol” gyda Phlaid Sosialaidd Sbaen, ond “dydy’r trafodaethau ddim wedi dechrau”.
Mae Pere Aragonès yn mynnu bod rhaid i Pedro Sánchez gymryd y cam cyntaf, nid y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth.
Gan nad oes gan y Sosialwyr fwyafrif, mae’r darpar brif weinidog yn dibynnu ar gefnogaeth y pleidiau annibyniaeth ymysg eraill.
“Rhaid i’r rheiny sydd eisiau llywodraethu [yn Sbaen] gydymffurfio ag agenda Catalwnia,” meddai Pere Aragonès, gan bwysleisio ei fod e a’i lywodraeth wedi gorfodi Sbaen i “symud” drwy roi pardwn i arweinwyr annibyniaeth Catalwnia wedi refferendwm “anghyfansoddiadol” 2017 a thrwy ddileu annog gwrthryfel fel trosedd.
Mae’n galw ar y Sosialwyr i ddatrys y sefyllfa “heb ofni” ymateb Plaid y Bobol a Vox, gan annog Pedro Sánchez i ddangos “dewrder”.