Mae rhiant oedd heb weld ymwelydd iechyd ers i’w merch gael ei geni dros ddwy flynedd yn ôl wedi dweud wrth golwg360 fod y gwasanaeth wedi dirywio yng Ngheredigion dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd Manon Mai Rhys-Jones a’i merch, Awen, weld ymwelydd iechyd am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf (Gorffennaf 29), er bod Awen bellach dros ddwy oed.

Yn fam i fabi gafodd ei geni yn ystod y pandemig Covid-19, roedd y ddynes o Ystrad Meurig ger Tregaron yn gobeithio y byddai mwy o ymdrech i ofalu am famau a phlant wedi i’r cyfyngiadau lacio.

Ond nid felly y bu, meddai, ac ar ôl beichiogrwydd “unig”, mae’n yn dweud bod yna “ddiffyg mawr wedi bod yn y gofal o’r mamau” ers hynny.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cydnabod fod ganddyn nhw “rai heriau o ran niferoedd yn y gwasanaeth ymwelwyr iechyd” yn y sir ar hyn o bryd, ac yn dweud eu bod nhw wedi bod yn gweithio’n galed i recriwtio.

Pan gafodd Manon Mai Rhys-Jones ac Awen apwyntiad yn y pen draw, roedd rhaid iddyn nhw deithio 40 munud i Aberaeron ac roedd yr ymwelydd iechyd wedi teithio o Lanelli atyn nhw.

‘Wedi dirywio’

Awen ydy trydydd plentyn Manon Mai Rhys-Jones, ac mae hi wedi sylwi ar “ddirywiad yn y gwasanaeth” ers iddi gael ei phlentyn cyntaf saith mlynedd yn ôl, a’r ail bum mlynedd yn ôl.

Efo Deio, gwelodd ymwelwyr iechyd fwy nag unwaith, ond byth yr un gweithiwr ddwywaith, ac efo Jano mi gafodd un ymweliad cyn iddyn nhw anfon llythyr ati’n dweud nad oedd hi’n bosib cynnig apwyntiad arall ond iddi ffonio os oedd problem.

“Wrth gwrs, efo Awen, roedd hi’n fabi Covid felly doedden ni ddim wedi gweld fawr neb yn arwain fyny at ei genedigaeth hi nac ar ôl hynna, a dw i ddim wedi gweld ymwelydd iechyd,” meddai wrth golwg360.

“Gefais i lythyr yn gweld os oedden ni’n iawn, os oedden ni eisiau rhywbeth i ffonio, ac wedyn gaethon ni lythyr yn dweud wrtha i i fynd ddydd Sadwrn i Aberaeron.

“Dydy hi ddim wedi gweld neb tan ddydd Sadwrn.

“Dw i’n gwybod bod fy mhlant i’n iawn, dyma’r trydydd plentyn dw i wedi’i gael, dim dyma’r tro cyntaf i fi wneud hyn, dw i’n gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Be’ sy’n poeni fi fwyaf ydy plant eraill, merched ifainc sydd ar eu pennau eu hunain, babi cyntaf, ddim yn gwybod be’ ydy’r drefn i fod, datblygiad naturiol plentyn. Does ganddyn nhw ddim y cefn yna, y gefnogaeth sydd gennym ni, a bod yna blant yn disgyn drwy’r rhwyd.

“O ran mam hefyd, dydy o ddim ots faint o blant ti’n cael, mae pethau’n gallu newid. Efallai fyddai’r ymateb i gael babi’r tro yma’n wahanol i’r ail dro, a’r tro cyntaf, ac efallai mai ymwelydd iechyd fysa’n pigo fyny ar y pethau yna.

“Maen nhw’n gofyn i fi sut dw i’n teimlo, roedd yr ymwelydd iechyd yn gofyn i fi ddydd Sadwrn, ac roeddwn i’n meddwl fod yna ddim lot o bwynt iddi ofyn i fi ddwy flynedd a hanner wedyn achos dw i wedi’i wneud o gyd rŵan.

“Mae eisiau i’r cwestiynau yma gael eu holi i’r merched yma yn y misoedd cyntaf.”

‘Diffyg mawr’

Mae Manon Mai Rhys-Jones yn gweld yr angen am ymwelwyr iechyd lleol yng Ngheredigion, a hynny er lles mamau’r sir, a llwyth gwaith gweithwyr iechyd mewn rhannau eraill o’r wlad.

“A bod yn deg, mae Llanelli’n wahanol iawn i gefn gwlad Ystrad Meurig. Mae ffordd pawb yn wahanol, dw i jyst yn meddwl fysa fo’n neis tasa ganddyn nhw ymwelydd iechyd o Geredigion, yn adnabod eu hardal.

“Roedd hi’n dweud ei bod hi’n gweld ei theuluoedd ar ei rhestr hi’n amlach na’i theulu ei hun ar brydiau, achos bod hi’n eu gweld nhw mor aml, a ni’n gweld neb.

“Roeddwn i’n ffeindio bod yn feichiog yn ystod Covid yn eithaf trawmatig, roedd o’n feichiogrwydd gwahanol iawn ac unig.

“Fysa chdi’n meddwl, yn enwedig pan oedd pethau’n ailagor, y bysa yna bwyslais ar y cysylltiad efo’r mamau yna gafodd blant yn ystod Covid, a does yna jyst ddim wedi bod o gwbl.

“Mae yna ddiffyg mawr wedi bod yn y gofal o’r mamau.”

‘Heriau o ran niferoedd’

Mae’r gwasanaeth ymwelwyr iechyd craidd, ac eithrio’r Tîm Ymateb Ymwelwyr Iechyd ychwanegol, yn cynnwys 15.8 o Ymwelwyr Iechyd cyfwerth ag amser llawn ar gyfer Ceredigion, meddai’r bwrdd iechyd.

Ym mis Mehefin, roedd 10.8 o Ymwelwyr Iechyd cyfwerth ag amser llawn yn eu swyddi, ac felly pum swydd wag.

Erbyn mis Gorffennaf, roedd nifer y swyddi gwag wedi gostwng i 3.2 cyfwerth ag amser llawn, gan fod dau Ymwelydd Iechyd wedi cael eu recriwtio o’r tu allan i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am brofiad y fam hon o’n gwasanaeth ymwelwyr iechyd,” meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Rydym yn cydnabod bod gennym rai heriau o ran niferoedd yn y gwasanaeth ymwelwyr iechyd yng Ngheredigion ar hyn o bryd.

“Mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio’n galed i recriwtio ymwelwyr iechyd newydd ac i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu ymwelwyr iechyd.

“Mae hyn yn cynnwys gweithredu model ‘Meithrin ein Nyrsys’ trwy gyflwyno gwasanaeth cymysgedd sgiliau.

“Mae hyn wedi cynnwys recriwtio Nyrsys Staff Iechyd Cyhoeddus Cymunedol i weithio o fewn y gwasanaeth o dan gyfarwyddyd ymwelwyr iechyd, i ennill profiad cyn cychwyn ar y cwrs ymwelwyr iechyd.

“Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus gan arwain at naw Nyrs Staff Iechyd Cyhoeddus Cymunedol yn cael eu hyfforddi fel Ymwelwyr Iechyd hyd yma.

“Mae’r datblygiad hwn wedi’i gefnogi gan gyflwyniad swydd Datblygu Ymarfer i gefnogi’r Nyrsys Staff yn eu hymarfer yn ogystal â’r cymysgedd sgiliau ychwanegol o swyddi Ymarferwyr Cynorthwyol.

“Yn ogystal â hyn ers mis Awst 2021, sefydlwyd Tîm Ymateb Ymwelwyr Iechyd i gynnal cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru naill ai mewn clinig neu leoliad cartref yng ngogledd Ceredigion.

“Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus o ran helpu ni i gynyddu nifer y plant sydd yn cael eu gweld a’u cyfeirio at wasanaethau eilaidd.”