Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio er mwyn ceisio denu twristiaid i “drysorau cudd” y gogledd.
Rhan o fwriad yr ymgyrch yw lleddfu’r pwysau mae rhai o brif atyniadau twristiaid Eryri yn ei wynebu wrth barhau i hybu’r economi trwy ddenu mwy o dwristiaid i ardaloedd newydd.
Mae’r ymgyrch wedi’i chyllido gan Gyllid Fferm Wynt Clocaenog, gyda Thwristiaeth Gogledd Cymru yn gwthio’r ymgyrch.
Un o’r prif ardaloedd mae’r ymgyrch yn canolbwyntio arno yw Hiraethog yn Ninbych.
Mae’r ardal dros 230 milltir sgwâr mewn maint ac yn cynnwys Rhuthun, Corwen, rhannau o Langollen a Mynydd Hiraethog.
“Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf o ymwelwyr â Gogledd Cymru yn ymwybodol o’r hyfrydwch sydd gan Hiraethog i’w gynnig ac rydym ar genhadaeth i newid hynny,” meddai Eirlys Jones, cyfarwyddwr masnachol Twristiaeth Gogledd Cymru.
“Mae’n ardal hynod brydferth gydag ystod mor gyfoethog ac amrywiol o bethau i’w gweld a’u gwneud.”
‘Perl sy’n gudd’
Yn rhan o’r ymgyrch, mae Twristiaeth Gogledd Cymru wedi llunio rhestr o rai o brif atyniadau’r ardal, yn ogystal â chynhyrchu podlediad llawn syniadau am weithgareddau.
Maen nhw’n cynnwys y llety glampio dyfnaf yn y byd, sydd wedi ei leoli o dan ddaear ym Metws y Coed, ail drac cartio hiraf y Deyrnas Unedig yng Ngherrigydrudion, a theithiau sled hysgi ym Mynydd Sleddog ger Llansannan.
Yn ôl Eirlys Jones, bydd yr ymgyrch hefyd yn ceisio cryfhau hunaniaeth yr ardal trwy annog pobol a busnesau lleol i gydweithio.
“Fel rhan o’r ymgyrch, rydym hefyd yn annog busnesau i ddod at ei gilydd a chydweithio, gan ddod â chymunedau ynghyd fel y gallwn greu ymdeimlad o le a balchder yn yr ardal,” meddai.
“Mae’n ymwneud â meithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth leol, dathlu diwylliant a threftadaeth Hiraethog.
“Mae’n wirioneddol berl sy’n gudd mewn golwg a’n nod yw sicrhau bod ymwelwyr yn darganfod y llawenydd sydd gan yr ardal i’w gynnig trwy aros a gwario eu harian yn lleol, gan helpu i greu cyflogaeth a ffyniant.
“Yn hytrach na chael yr ymwelwyr yn anelu am y mannau poblogaidd sy’n aml yn brysur, rydym eisiau lledaenu’r cariad o gwmpas ac mae digon i’w garu yn Hiraethog.”