Mae Plaid Cymru’n galw am gymryd “camau breision” i ddechrau ar y gwaith o sefydlu pwerau datganoledig tros ddarlledu i Gymru.
Daw hyn ar ôl i adroddiad gael ei gyhoeddi sy’n galw am sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru.
Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd darlledu’r Blaid, mae sefydlu cyfryngau annibynnol yn “hanfodol” mewn cymdeithas ddemocrataidd.
Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru’n nodi bod cytundeb rhwng y ddwy blaid y dylid datganoli’r pwerau dros ddarlledu i’r Senedd.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylid bwrw ymlaen i sefydlu’r Awdurdod erbyn mis Medi’r flwyddyn nesaf, ac mae Plaid Cymru’n dweud bod yr argymhelliad hwnnw’n “rhy bwysig” fel na ddylid oedi cyn gweithredu.
‘Datblygiad arwyddocaol i Gymru’
“Mae’r adroddiad heddiw’n ddatblygiad arwyddocaol i Gymru i’n helpu i gymryd camau i dyrbochwythu ein democratiaeth,” meddai Heledd Fychan.
“Mae cyfryngau teg, annibynnol a chytbwys wrth galon pob cymdeithas ddemocrataidd.
“Dylid gwneud penderfyniadau am materion cyfathrebu a darlledu i Gymru yng Nghymru, a thra bod pwerau tros ran helaeth o’r cyfryngau Cymreig yn dal mewn gwlad arall, ac o dan lywodraeth arall, bydd Cymru ar ei cholled.
“Yn hanfodol, mae’r adroddiad yn nodi y bydd angen corff yng Nghymru i Lywodraeth Cymru gael troi ato am arweiniad ar wynebu’r heriau ar y gorwel, ac i gynyddu tryloywder a phliwraliaeth y cyfryngau yng Nghymru.
“Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru rŵan i gyflwyno argymhellion yr adroddiad ac i gymryd camau ar unwaith i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol.
“Mae’r mater hwn yn rhy bwysig fel na ddylid oedi.”
‘Breuder y cyfryngau’
Cafodd y panel ei sefydlu yn sgil y Cytundeb Cydweithio yn 2022.
“Trwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu mynd i’r afael yn uniongyrchol â’n pryderon am freuder presennol y cyfryngau ac ymosodiadau ar eu hannibyniaeth,” meddai Cefin Campbell, yr Aelod Dynodedig.
“Mae ein dull budd y cyhoedd tuag at ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru’n gyferbyniad llwyr i ddull Llundain-ganolog, elw ar bob cyfri Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn credu mewn dyfodol lle mae pliwraliaeth cyfryngau democrataidd ac amrywiol sy’n datblygu ac yn adlewyrchu bywyd cenedlaethol Cymru.
“Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru all warchod, amrywio a datblygu ein llwyfannau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hanfodol ymlaen.”
Adroddiad “pwysig a phellgyrhaeddol”
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r adroddiad “pwysig a phellgyrhaeddol” ar ddarlledu “sy’n agor pennod newydd yn hanes cyfryngau Cymru”.
“Mae cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd datganoli’r grym dros faes darlledu a chyfathrebu o Lundain i Senedd Cymru, ac rydyn ni’n falch bod Llywodraeth Cymru’n mynd ati i baratoi ar gyfer hynny er mwyn sicrhau bod penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai Mirain Owen o grŵp digidol y mudiad.
“Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod rôl yr Awdurdod arfaethedig yn y strategaeth iaith genedlaethol, gan fod cyfryngau a thechnoleg eisioes yn themâu strategol bwysig yn ‘Cymraeg 2050.’
“Wrth gwrs, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am ddatganoli darlledu ers blynyddoedd, gan fod y system bresennol sy’n cael ei rheoli o Lundain yn niweidiol i’n hiaith, ein diwylliant a’n democratiaeth.
“Bydd creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol yn gam pwysig ar y ffordd tuag at ddatganoli darlledu, ac rydyn ni’n cymryd y bydd y Llywodraeth yn mynd ati’n ddi-oed i sefydlu’r Awdurdod.”