Mae ymgyrch newydd yn galw am roi cig carw a chigoedd tebyg ar fwydlenni ysgolion ac ysbytai Cymru.
Nod yr ymgyrch, fydd yn cael ei lansio yn Ffair Gêm Cymru, yw cynnig cig hela sydd heb lawer o fraster, ond sydd â lefelau protîn uchel, i gleifion a disgyblion.
Yn ôl trefnwyr y Ffair, mae cig carw, ffesant, hwyaden a chwningen yn opsiynau “rhatach ac iachach” y dylid ei ystyried.
Maen nhw am weld cig hela’n cael ei drin yr un fath â chigoedd cyffredin fel cyw iâr, cig eidion a chig oen.
Dywed James Gower, prif weithredwr Stable Events, un o drefnwyr Ffair Gêm Cymru, mai cigoedd fel ffesant a charw yw’r “cig maes mwyaf naturiol sydd gennym” gan eu bod nhw’n cael eu magu yng Nghymru.
“Mae ganddo ôl troed carbon isel ac mae’n anhygoel o iach,” meddai.
“Mae’n gwneud synnwyr llwyr iddo fod yn ddewis rheolaidd ar ein bwydlenni ysbyty.”
Bydd Ffair Gêm Cymru yn cael ei chynnal ar Stad y Faenol ger Bangor ar Fedi 9 a 10, ac yn hyrwyddo cefn gwlad a gweithgareddau gwledig.
‘Y cig iachaf’
Un o gefnogwyr yr ymgyrch yw cyfarwyddwr gweithrediadau Willo Game o Sir Amwythig, sy’n un o brif gyflenwyr cig hela’r Deyrnas Unedig.
“Mae gennym rai rhwystrau i’w goresgyn, ond mae’r rhain yn bennaf seiliedig ar gamdybiaethau cyffredin am ddefnyddio cig hela fel ffynhonnell fwyd,” meddai Will Oakley, fu’n giper cyn troi yn gyflenwr cig.
“Ond pan fyddwch chi’n eistedd i lawr ac yn edrych ar y ffeithiau go iawn mae yna ddigonedd o resymau cadarn o blaid cyflwyno cig gêm i fwydlenni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Yn gyntaf mae’n amlwg mai dyma’r cig iachaf.
“Nid yw’n cynnwys llawer o fraster ac mae ganddo’r gwerth protein uchaf o unrhyw gig.
“Mae ceirw a mathau eraill o anifeiliaid sy’n cael eu hela yn byw yn yr awyr agored yn eu hamgylchedd naturiol, sy’n golygu mai nhw yw’r ffynhonnell fwyaf o gig maes sydd gennym.”
Mae Willo Game yn cael mwy na hanner eu cig carw o Gymru, ac mae 50% o’r cig mae’n ei allforio dramor yn gig hela Cymreig.
“Yng Nghymru mae gan gig hela ôl troed carbon tebyg i gig eidion neu gig oen a fagwyd yn lleol ac mae’n fwy na chystadleuol o ran pris,” meddai wedyn.
“Er enghraifft, mae ffigurau diweddaraf y farchnad yn dangos bod pris cig eidion tua £35 y cilo o’i gymharu â £23 y cilo ar gyfer cig carw.
“Ni fyddai dewis cig hela yn ychwanegu unrhyw straen pellach ar gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
‘Gwerthfawrogi cig hela’
Ychwanega James Gower fod rhaid difa hyn a hyn o geirw bob blwyddyn er mwyn gwarchod eu cynefinoedd ac iechyd y fuches.
“Does ganddyn nhw ddim ysglyfaethwr naturiol felly pe bai ceirw yn cael bridio heb eu gwirio byddai’r niferoedd mor fawr fel y bydden nhw’n bwyta’r holl fflora a ffawna lleol, gan niweidio ein heco-system naturiol, ac yn y pen draw byddent yn rhedeg allan o fannau pori,” meddai.
“Ar ôl eu difa, maen nhw’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ar unwaith fel ffynhonnell naturiol o gig heb ychwanegion.
“Dyma pam y dylid gwerthfawrogi cig hela yn hytrach na’i eithrio o fwydlenni ysbytai. Mae’n bryd ailfeddwl ar sut rydym yn sicrhau diet iach.”