Mae Plaid Cymru wedi codi pryderon am effaith bosib y gwiriadau Brexit llawn ar y ffin, sydd i fod i ddod i rym yn hydref.

Yn ôl y Blaid, gallai’r gwiriadau “waethygu chwyddiant prisiau bwyd ar adeg o galedi economaidd”.

Ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae aelwydydd dros wledydd Prydain wedi gwario £7bn yn fwy ar fwyd gyda’i gilydd, medd y Blaid.

Mae hynny gyfystyr â £250 fesul aelwyd.

Dywed Hywel Williams, llefarydd Masnach Ryngwladol Plaid Cymru, y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn “bragmataidd” er mwyn “amddiffyn arian pobol rhag difrod pellach”.

Ynghyd â galw am ohirio’r gwiriadau ar y ffin, mae Plaid Cymru hefyd yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella’r broses gwiriadau a thollau mewn porthladdoedd allweddol fel Caergybi ac Abergwaun.

‘Methu anwybyddu’r effaith’

Wrth edrych tua’r dyfodol, maen nhw hefyd am weld y Deyrnas Unedig yn ailymuno â’r farchnad sengl a’r Undeb Tollau.

“Wrth i ni agosáu at yr Hydref a’r dyddiad ar gyfer gwiriadau Brexit llawn ar y ffiniau, rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn bragmataidd ac ystyried yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar aelwydydd a busnesau,” meddai Hywel Williams.

“Fedrwn ni ddim anwybyddu effaith bosib y gwiriadau hyn.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cymryd y camau angenrheidiol i warchod arian pobol rhag difrod pellach a sicrhau gwell dyfodol economaidd i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn methu dangos arweinyddiaeth unwaith eto o ran costau byw gan eu bod nhw ofn crybwyll Brexit.

“Rhaid iddyn nhw stopio rhoi eu pennau yn y tywod a chydnabod effaith y rhwystrau masnachol hyn ar brisiau bwyd a chostau busnesau.”