Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Crist Glanogwen, Bethesda fis nesaf i gofio’r rhai fu farw yn ystod y pandemig Covid-19.

Daw hyn ar gais y gymuned leol i gofio’r rhai nad oedd modd cael angladdau arferol ar eu cyfer o ganlyniad i gyfyngiadau’r cyfnodau clo.

Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw un, ac mae croeso cynnes i bobol ddod hyd yn oed os nad ydyn nhw’n mynd i’r capel neu i’r eglwys yn rheolaidd.

Bydd enwau’r sawl fu farw yn cael eu cofnodi mewn llyfr coffa, a bydd cyfle i gymryd rhan yn y gwasanaeth drwy rannu barddoniaeth neu gerddoriaeth.

Galar yn waeth heb angladdau teilwng

Oherwydd yr amgylchiadau yn ystod y cyfnod clo, doedd dim angladdau arferol ar gyfer rhai pobol, ac mae hyn wedi gadael rhai anwyliaid yn galaru’n waeth.

Bydd y gwasanaeth yn gyfle i dalu teyrnged i’w hanwyliaid.

“Ar ôl cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar, gwnaeth rhai o’r bobol ddôth i’r cyfarfod yna fynegi’r angen i gael rhyw fath o wasanaeth i dalu teyrnged lawn i’r bobol roedden nhw wedi’u colli yn ystod y cyfnod clo,” meddai’r Parchedig Sara Roberts wrth golwg360.

“Yn ystod y cyfnod clo, doedd neb yn gallu cael angladd llawn go iawn ar gyfer eu hanyliaid nhw.

“Roedd yr amgylchiadau mor anodd.

“Roedden nhw’n teimlo bo nhw heb ddweud ffarwél wrth eu hanwyliaid nhw, a phobol felly.

“Maen nhw’n teimlo’r angen i gael rhyw fath o closure go iawn, a chael y gwasanaeth roedd y person yn ei haeddu.

“Mae rhai pobol yn teimlo bo nhw heb gael y cyfle yna i wneud pethau yn iawn oherwydd yr amgylchiadau rydym i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw.

“Felly gwnaethon ni gynnig cynnal rhyw wasanaeth ar gyfer hynny, ar gyfer yr holl fro rili, pawb sydd wedi colli rhywun dros y tair blynedd diwethaf yma ac yn teimlo’r angen i gael gwasanaeth.

“Mae yna groeso iddyn nhw ddod a bod yn rhan ohono fo.

“Mae o i bawb o gwmpas Bethesda.”

Llyfr coffa

Er cof am y bobol fu farw, mae llyfr coffa ar agor i bobol gael ysgrifennu eu henwau.

“Mae sgwennu enwau pobol mewn llyfr, ac wedyn bod o’n cael ei gadw, yn rhyw fath o deyrnged sydd yn mynd i bara,” meddai.

“Roeddwn yn meddwl y byddai’n rywbeth neis y byddai pobol yn fodlon gwneud.

“Gwnawn ni gadw fo yn yr eglwys.

“Bydd o yna wedyn i gofio’r cyfnod anodd yna, a’r bobol sydd wedi colli eu bywydau.”

Barddoniaeth a cherddoriaeth

Bydd y gwasanaeth yn un creadigol, gyda phob math o bobol yn cael y cyfle i berfformio, a’r gobaith yw y bydd yn cynnig cysur i anwyliaid y sawl fu farw.

“Rwyf eisiau gwneud o’n rhywbeth sy’n agored i bobol sydd efallai ddim yn rheolaidd yn dod i’r eglwys neu gapel,” meddai’r Parchedig Sara Roberts.

“Mae’n agored i bawb.

“Dydy o ddim yn wasanaeth or-grefyddol.

“Mi fydd yna gyfnod o weddi.

“Rwy’ eisiau iddo fod yn agored i bobol gael mynegi sut maen nhw’n teimlo.

“Mae barddoniaeth a cherddoriaeth yn helpu hynny, rwy’n meddwl.

“Rwy’ eisiau iddo fo fod yn rywbeth rydym yn creu gyda’n gilydd.

“Mae yna lwyth o bobol sydd yn barddoni a chyfansoddi a phethau o gwmpas y lle.

“Mae yna lawer o bobol dalentog iawn.

“Rwy’ eisiau’u hannog nhw i ddod ymlaen i gyfrannu at hwn trwy gynnig cân neu ddarn o farddoniaeth neu rywbeth, er mwyn creu rhywbeth fydd yn deilwng i’r bobol sydd wedi pasio ac i gynnig rhyw fath o gysur i’r teuluoedd a ffrindiau.”

Cofio, ond edrych tua’r dyfodol hefyd

Gyda gwersi wedi’u dysgu o’r cyfnod clo am bwysigrwydd pobol a chymuned, mae hwn yn gyfle i alaru a chofio gan edrych ymlaen tua’r dyfodol hefyd.

“Hoffwn annog pawb sy’n teimlo bo nhw angen a bo nhw’n licio bod yn rhan o hwn i gofio’r dyddiad ac amser ac i yrru enwau atom ni yn yr eglwys os ydyn nhw eisiau rhoi enwau mewn llyfr,” meddai.

“Os ydyn nhw’n nabod rhywun sy’n gallu cynnig cân neu farddoniaeth neu rywbeth ac maen nhw eisiau bod yn rhan o hwn, bydd yn rywbeth sydd yn edrych yn ôl ac yn galaru ond eto yn rywbeth efallai sy’n gallu helpu ni i symud ymlaen efo gobaith at y dyfodol.

“Mae yna wersi rydym wedi’u dysgu o’r cyfnod yna, pethau mor bwysig â chymuned.

“Unrhyw un sy’n teimlo bod ganddyn nhw rywbeth i ddweud efo hynna, dewch ymlaen a gyrrwch neges atom ni yn yr eglwys.”