Mae rhedwr o Aberystwyth wedi torri record y byd am gwblhau’r marathon cyflymaf wedi gwisgo fel reslwr Mecsicanaidd.
Cwblhaodd Richard Anthony y marathon, wedi gwisgo yn lliwiau Cymru a Mecsico, ym Mhen-bre fis Ebrill, gan godi arian er cof am ei frawd.
Rhedwr mynydd ydy’r gŵr gafodd ei fagu yn Aberystwyth a Chanada, a dyma’r tro cyntaf iddo redeg marathon ffordd – a hynny mewn tair awr, deng munud a 27 eiliad.
Bu farw Gareth Anthony, oedd yn byw yn Aberllechau yng Nghwm Rhondda, o ganser yn 48 oed y llynedd.
Bedwar diwrnod cyn ei farwolaeth, llwyddodd dau aelod o staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i helpu i wireddu dymuniad olaf Gareth Anthony gan fynd ag ef a’i deulu i Draeth Rest Bay ym Mhorthcawl fel rhan o’u cynllun ‘Dymuniad’.
Doedd hi ddim yn bosib iddo fynd ar y traeth ei hun oherwydd bod olwynion ei gadair olwyn yn rhy fach a’r ramp yn rhy serth.
“Yn anffodus ym Mhorthcawl roedd cadair olwyn ar y traeth ond doedd dim ar gael ar yr adeg, oherwydd dim ond un oedd ar gael,” eglura Richard Anthony, sy’n 47 oed, wrth golwg360.
“Felly dywedodd e y byddai’n syniad da i ni godi arian i gael mwy o gadeiriau olwyn ar y traeth.
“Meddyliais i y byddai’n syniad da gwneud y marathon yn gwisgo lan.”
Ers hynny, mae ei deulu wedi cyfrannu £3,000 i Wasanaethau Ambiwlans Cymru, ac wedi codi £7,000 er mwyn prynu cadair olwyn traeth.
“Sa i erioed wedi gwneud marathon o’r blaen, rhedwr mynydd ydw i fel arfer,” meddai wedyn.
“Roedd yn esgus da i wneud yr un cyntaf. Dw i’n casáu rhedeg ar yr hewl fel arfer.
“Dw i wedi rhedeg fel reslar o blaen fel bach o hwyl gyda ffrindiau.”
Orig Williams yn ysbrydoliaeth
Orig Williams oedd yr ysbrydoliaeth dros wisgo fel reslar Lucha libre, sef steil o reslo sy’n deillio o Fecsico.
“Roedd gyda fi boots fflag Cymru, wedyn tights gwyrdd, tryncs coch ac roeddwn yn mynd i wisgo top gwyn,” meddai.
“Jyst cyn y marathon ar y diwrnod sylweddolais nad oeddwn yn gallu ei wisgo oherwydd bod llawer o reolau ynglŷn â beth ti’n cael gwisgo yn y marathon.”
Rhedodd y Great Welsh Marathon heb dop yn y diwedd.
“Dyna pam roeddwn yn gwisgo boots i redeg y marathon, ti ddim yn gallu gwisgo trainers.”
‘Balch iawn’
Ychwanega ei fod yn falch iawn yn clywed ei fod wedi cael record y byd yn ddiweddar, wedi iddi gymryd ychydig fisoedd i Guinness wirio’r dystiolaeth.
“Achos nad ydyn nhw’n gweld be ti’n wneud mae’n rhaid i chdi ddangos llawer o dystiolaeth, llawer o ffotograffau a fideos, ac mae rhaid i chdi gael datganiad gan dyst annibynnol, rhywun i gadw amser, a chyfarwyddwr y ras,” meddai.
“Mae’n anoddach cael y record gan Guinness na rhedeg y marathon!
“Ond dw i’n falch.
“Dw i wedi cael croesi’r llinell o’r diwedd.”