Bydd partneriaeth newydd rhwng prifysgolion Cymru’n ysgogi mwy o gydweithio ac ymchwil ym maes y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Mae Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru’n bartneriaeth rhwng naw o brifysgolion y wlad, a bydd yn llwyfan iddyn nhw weithio ar y cyd.

Y bwriad yw y byddan nhw’n gallu rhannu arbenigedd, adnoddau a sgiliau’n haws, ac y bydd y gynghrair yn hybu ymchwil ac arloesedd.

Mae prifysgolion Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru, Met Caerdydd, Wrecsam a’r Brifysgol Agored i gyd yn rhan o’r Gynghrair.

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y prifysgolion fod y Gynghrair yn “cynrychioli cyfle Cymru-gyfan i adeiladu partneriaeth ddyfnach a chryfach, fydd yn canolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil ac arloesedd yn y celfyddydau a’r dyniaethau mewn addysg uwch”.

“Mae’r Gynghrair hefyd yn llwyfan ar gyfer eiriolaeth a gweithredu, sydd wedi’u gwreiddio yn ein creadigrwydd, ein harbenigedd a’n sgiliau cyffredin,” meddai.

“Mae’r aelodau a sefydlodd y gynghrair wrth eu bodd yn cymryd y cam arwyddocaol hwn i gynyddu llais y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru ac i gyfrannu at drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch gwerth y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar draws Cymru-gyfan mewn byd sy’n newid yn gyflym.”

‘Budd cyhoeddus sylweddol’

Caiff y Gynghrair ei chynnal gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RHAC), a dywed y cadeirydd mai pwrpas y Rhwydwaith oedd cryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru drwy gydweithio â’r holl brifysgolion.

“Rwyf wrth fy modd felly bod RhAC yn hwyluso datblygiad Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru, sy’n enghraifft wych o bŵer ein hymagwedd at weithio mewn partneriaeth,” meddai’r Athro Paul Boyle, sydd hefyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

“Fel sector, credwn fod y celfyddydau a’r dyniaethau yn cynrychioli budd cyhoeddus sylweddol, yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â heriau’r gymdeithas gyfoes.

“Mae Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru yn cynnig cyfle amserol i dynnu sylw at werth sylweddol y disgyblaethau pwysig hyn yma yng Nghymru, ac i ddatblygu ein heffaith mewn ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn ymhellach.”