Cafodd galwad am barcio am ddim yn y boreau mewn meysydd parcio mewn tair tref yng Ngheredigion ei chymeradwyo gan gynghorwyr ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 31) – ynghyd â’r posibilrwydd o ddileu parcio am ddim ar bromenâd Aberystwyth.

Mae’r alwad am barcio am ddim, sy’n fersiwn ddiwygiedig o gynnig gerbron cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar Orffennaf 31, yn galw am barcio am ddim rhwng 8-10yb o ddydd Llun i ddydd Gwener mewn un maes parcio yr un yn Llanbed, Aberaeron ac Aberteifi.

Roedd adroddiad ar gyfer aelodau wedi awgrymu’n wreiddiol y gellid ystyried cyfnod o barcio am ddim cyn 11yb ym mhob un o 21 maes parcio’r sir, ond roedden nhw’n rhybuddio y gallai hyn arwain at gynnydd yn nhreth y cyngor er mwyn adenill rhyw £130,000 mewn colledion refeniw.

Byddai’r opsiwn yna wedi cynyddu i £170,000 pe bai’r colledion yn deillio o barcio am ddim yn Nhregaron a Llandysul wedi parhau.

Roedd disgwyl na fyddai’r cynnig gwreiddiol hwnnw – allai fod wedi arwain at gynnydd yn nhreth y cyngor o 0.325% i 0.425% – yn cael ei gefnogi.

Trafodaeth

Yn y cyfarfod, awgrymodd nifer o aelodau dreialu parcio am ddim yn eu hardaloedd, gan gynnwys Ann Bowen Morgan yn Llanbed, oedd wedi galw am ardal dreialu parcio rhad ac am ddim am ddwy awr yn un o feysydd parcio’r dref.

Yn ystod y drafodaeth, roedd sylw i barcio am ddim ar y promenâd yn Aberystwyth, gyda’r Cynghorydd Ifan Davies o Dregaron yn dweud y dylai “buwch sanctaidd” Aberystwyth “rannu peth o faich” costau parcio.

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod dealltwriaeth o gysyniad parcio am ddim ymhlith archfarchnadoedd fel ffordd o roi hwb i fasnach, ac y byddai parcio am ddim am gyfnod byr yn nhrefi lleia’r sir yn ffordd dda o annog pobol i siopa’n lleol.

“Efallai bod canol trefi’n brysur, ond ydyn nhw’n gwario arian?” meddai.

“Yn ystod dwy awr gynta’r bore mae pobol yn dod i’r dref i siopa.”

Gan nad yw hi’n aelod o’r pwyllgor, meddai, doedd hi ddim yn gallu gwneud argymhelliad, ond wnaeth hi annog rhywun i ddilyn ei hawgrym ar gyfer un maes parcio rhad ac am ddim rhwng 8-11yb yn ystod yr wythnos yn Aberaeron, Llanbed ac Aberteifi i’n “gwneud ni’n gyfartal ag Aberystwyth”.

Cafodd hi gefnogaeth y Cynghorydd Ann Bowen Morgan, oedd wedi newid ei hawgrym blaenorol i’r tair tref rhwng 8-10yb, a chafodd hi gefnogaeth ei chyd-aelodau ar y pwyllgor.

Dydy union fanylion y meysydd parcio fydd ynghlwm ddim wedi cael eu cadarnhau’n derfynol.

Bydd y cynnig ar gyfer y meysydd parcio, gan gynnwys y posibilrwydd o godi arian ar bromenâd Aberystwyth, yn cael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol, a’r disgwyl yw y bydd hwnnw’n cael ei gynnal ym mis Medi.