Bydd ymgyrchydd iaith yn ymddangos gerbron llys eto fore ddydd Gwener (Awst 4) am wrthod talu dirwy barcio gan na chafodd un Gymraeg.

Mae One Parking Solutions, sy’n rhedeg y maes parcio yn Llangrannog, wedi gwrthod darparu gohebiaeth Gymraeg i Toni Schiavone hefyd.

Bu’r ymgyrchydd yn y llys fis Mai y llynedd, ac am iddo fynnu achos yn Gymraeg roedd rhaid i One Parking Solutions gyfieithu’r holl bapurau, gan gynnwys y ddirwy ei hun.

Wnaeth One Parking Solutions, sydd â’u pencadlys yn Worthing yn ne Lloegr, ddim mynd i’r achos llys diwethaf, ac felly taflwyd ef allan, ond mae’r achos bellach yn ôl yn y llys.

Er hynny, mae’r cwmni’n parhau i geisio’r taliad ond yn gwrthod darparu dirwy i Toni Schiavone yn Gymraeg, ac yn gohebu yn Saesneg yn unig gydag o.

‘Agwedd annerbyniol’

Dywedodd Toni Schiavone cyn ei achos llys ei bod hi’n “drist iawn” gweld bod y cwmni’n parhau i wrthod darparu gwasanaeth Cymraeg.

“Mae’r gost o gynnal yr achos llys ganwaith yn fwy na’r gost o ddarparu llythyr dirwy Cymraeg,” meddai.

“Yn ôl y cwmni, gan fy mod i yn gallu siarad Saesneg does dim angen iddynt ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg.

“Mae’r agwedd yma yn hollol annerbyniol ac yn hollol groes i hawliau siaradwyr Gymraeg.

“Mae yna gannoedd os nad miloedd o feysydd parcio yng Nghymru yng ngofal cwmnïau preifat o Loegr.

“Mae’r ymgyrch i sicrhau arwyddion Cymraeg yn y meysydd yma yn parhau ond mae angen hefyd sicrhau gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ni fyddaf yn talu’r ddirwy oni bai fy mod yn derbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mewn achos tebyg yng Nghaernarfon yn ddiweddar, dyfarnodd y barnwr Mervyn Jones-Evans o blaid diffynnydd oedd yn gwrthod talu dirwy uniaith Saesneg, gan nad yw cyhoeddiadau uniaith Saesneg neu Gymraeg yn hysbysiadau digonol i gydymffurfio gydag atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012.

Cyhoeddodd hefyd rybudd barnwrol y dylai pob arwydd mewn meysydd parcio yng Nghymru fod yn ddwyieithog.

‘Sarhau pobol Cymru’

Dywed Sian Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith, mai perchnogion y maes parcio ddylai fod gerbron llys, nid Toni Schiavone.

“Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae meysydd parcio a reolir gan gyrff cyhoeddus yn defnyddio’r Gymraeg tra bod y cwmni preifat yma yn sarhau pobol Cymru,” meddai.

“Galwn ar Jeremy Miles i ail-ystyried ei safbwynt ef ar y mater a gweithredu i sicrhau bod cwmnïau fel One Parking Solutions sydd yn gwneud elw yng Nghymru yn parchu’r Gymraeg trwy arddangos arwyddion, darparu opsiwn talu a phob gweinyddu yn Gymraeg.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu dechrau ar ymgyrch i bwyso ar gwmnïau parcio preifat i osod arwyddion gwybodaeth Cymraeg yn eu meysydd parcio a gohebu gyda defnyddwyr yn Gymraeg.

Toni Schiavone

Achos yn erbyn Toni Schiavone wedi’i daflu allan

Doedd neb o gwmni One Parking Solutions yn y llys