Mae adroddiad newydd “brawychus” ar ddiogelwch adeiladau’n cyfeirio at “wendidau sylweddol” yn y drefn rheoleiddio adeiladu yng Nghymru.
Mae’r adroddiad ‘Craciau yn y Sylfeini’, sydd wedi’i gyhoeddi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw (dydd Mawrth, Awst 1), yn nodi bod cynghorau a gwasanaethau tân ac achub yn methu sicrhau bod adeiladau’n ddiogel.
Pwrpas yr adroddiad oedd cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw fwrw ati gyda’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu, gan edrych ar ddisgwyliadau, sut i weithredu’r newidiadau a’r gwaith goruchwylio.
Dywed Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y byddai gwasanaethau rheoli adeiladu sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau yn cael trafferth ymdopi â newidiadau.
Mae cynghorau’n gorfodi rheoliadau adeiladu, ac mae gwasanaethau tân ac achub hefyd yn archwilio adeiladau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â’r gyfraith.
Mae’r adroddiad yn nodi’r canlynol:
- Dydy’r cyrff sy’n gyfrifol am gyflwyno’r newid i ddiogelwch a rheolaeth adeiladu ddim mewn sefyllfa i’w cyflenwi nhw, a dydyn nhw ddim yn gallu gwneud eu rôl o oruchwylio’n effeithiol.
- Dydy rhai penderfyniadau allweddol ar y drefn Diogelwch Adeiladu newydd heb gael eu gwneud eto.
- Dydy nifer o awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub heb amlinellu sut maen nhw’n bwriadu cyflwyno gofynion Deddf Diogelwch Adeiladu 2022.
- Mae amrywiaeth o broblemau’n wynebu’r maes diogelwch adeiladu a rheoli adeiladu, gan gynnwys prinder staff sylweddol.
- Gallai trefniadau presennol rhai awdurdodau lleol fod yn anghyfreithlon.
- Mae diffyg fframwaith cenedlaethol er mwyn monitro diogelwch a rheolaeth adeiladu yn golygu nad ydy awdurdodau lleol a phartneriaid yn gweithio tuag at dargedau penodedig.
‘Trefn fethedig’
Dywed Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig, fod yr adroddiad yn “frawychus”.
“Mae’n cynnig catalog o dystiolaeth bod trefn diogelwch adeiladu Cymru’n fethedig,” meddai.
“Dw i wedi bod yn ymgyrchu ers hir gyda dioddefwyr diogelwch adeiladu er mwyn trio gweld bod eu tai’n cael eu gwneud mewn ffordd ddiogel, ond chwe blynedd wedi trasiedi Grenfell mae pobol dal yn gaeth mewn tai anniogel.
“Rydyn ni’n gweld heddiw bod yr argyfwng yn ehangach ac yn ddyfnach nag oedden ni’n ei ofni.”
Dywed hefyd fod Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru wedi “methu” â chael gafael ar y sefyllfa yng Nghymru, ac y dylai fod yn atebol am y ffaith fod “dilyn trywydd gwahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith negyddol”.
“Mae angen i Lafur weithredu’n sydyn a chydnabod yr holl ganfyddiadau difrifol yn yr adroddiad hwn,” meddai.
‘Gwendid yn y setliad datganoli’
Yn y cyfamser, mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd tai Plaid Cymru, yn dweud bod y Ddeddf Diogelwch Adeiladau newydd yn dangos “gwendid yn y setliad datganoli”.
“Mae’r adroddiad gan Archwilio Cymru’n cyfeirio at y gwendidau sylweddol yn rhaglen diogelwch adeiladu Cymru, a bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod y rhaglen newydd yn cael yr un adnoddau cywir a chyson ledled Cymru,” meddai.
“Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn edrych ar y mater ac mae’r dystiolaeth sydd wedi dod gerbron yn awgrymu bod diogelwch adeiladu fel y ‘Gorllewin Gwyllt’, gyda datblygwyr yn torri corneli mewn gwneud mwy o elw, felly mae hi’n hen bryd ein bod ni’n gweld gweithredu ar hyn.”
Cafodd y Ddeddf Diogelwch Adeiladau ei phasio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y llynedd, ac mae rhannau ohoni sy’n berthnasol i Gymru’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygwyr adeiladu risg-uchel ddangos bod mesurau diogelwch mewn grym deirgwaith cyn i’r adeilad gael ei ddefnyddio.
Bwriad Llywodraeth Cymru ydy gwneud i gynghorau lleol weithredu fel rheoleiddwyr diogelwch, tra bo hynny am fod yn waith i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn Lloegr.
“Fodd bynnag, er y dylai’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu newydd fod yn gam yn y cyfeiriad cywir mae’n dangos y gwendid yn y setliad datganoli gyda Chymru a Lloegr yn anghytuno ar ambell fater,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Ddylai Llywodraeth Cymru ddim bod yn trio dal ymlaen i gamau San Steffan, ond hytrach fe ddylen nhw fod yn datblygu deddfwriaeth wreiddiol yng Nghymru, i Gymru.
“Os ydy’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau am weithio ac ein bod ni am osgoi trasiedi Grenfell arall yna rhaid i’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain ddod â Chynni 2.0 i ben a pheidio gostwng y gwariant ar wasanaethau hanfodol.”
Ychwanega ei bod hi ddim rhyfedd bod Awdurdodau Lleol yn cael trafferth gweithredu’r gofynion yn y Ddeddf oherwydd y toriadau yn eu cyllid.
‘Rheoli adeiladu yn flaenoriaeth’
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod diwygio’r system bresennol sy’n rheoli adeiladu yn flaenoriaeth iddyn nhw a’u bod nhw’n croesawu’r adroddiad heddiw.
“Mae’r adroddiad yn cynnig trosolwg dros stad gwasanaethau rheoli adeiladu awdurdodau lleol ac nad yw’n adolygiad o raglen diogelwch adeiladu Llywodraeth Cymru,” meddai.
“Rydyn ni wedi datblygu amserlen raddol ar gyfer cyflwyno darpariaethau o’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu sy’n berthnasol i Gymru.
“Mae hyn wedi cael ei rannu’n eang â’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill, a bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2024.”