Mae Plaid Cymru’n galw am adolygiad brys o wasanaethau gofal llygaid, gan rybuddio bod hanner cleifion offthalmoleg Cymru mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol.

Maen nhw’n awyddus i sicrhau bod yr achosion mwyaf brys yn cael sylw o fewn amserlenni derbyniol.

Daw hyn ar ôl i ffigurau gafodd eu cyhoeddi y mis yma ddangos bod un ym mhob dau o gleifion gofal llygaid mewn perygl o niwed parhaol neu sylweddol canlyniadol am nad ydyn nhw wedi cael eu hapwyntiad claf allanol cyntaf o fewn yr amser targed.

Roedd amseroedd aros ar eu huchaf yn anterth y pandemig, ond dydyn nhw erioed wedi gwella i lefelau cyn y pandemig.

Fis Mai eleni, roedd 52.5% o gleifion sy’n cael eu hystyried yn ‘Ffactor R1 Risg i Iechyd’ yn aros y tu hwnt i’r dyddiad targed ar gyfer apwyntiad cleifion allanol, sy’n cyfateb i dros 75,000 o gleifion, ac mae hyn yn gynnydd o 1,300 ers y mis blaenorol.

‘Gallai’r canlyniad fod yn ddinistriol’

“Mae’n amlwg nad yw Offthalmoleg wedi gallu gwella o’r pandemig, a gallai’r canlyniad fod yn ddinistriol i ormod o gleifion,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru.

“Yn syml, nid yw’n ddigon da bod mwy nag un o bob dau glaf mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol oherwydd na all Lywodraeth Cymru gael gafael ar amseroedd aros.

“Er mwyn dangos eu bod o ddifrif ynglŷn â gofal llygaid yng Nghymru, rhaid i ni weld cynllun gan Lywodraeth Cymru ar sut y maent yn bwriadu amgyffred yr achosion mwyaf brys ar y rhestrau aros hyn.

“Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith i sicrhau bod targedau’n gyrru’r ymddygiad cywir, bod targedau’n cael eu monitro’n effeithiol, bod gan fyrddau iechyd yr adnodd i allu cyrraedd y targed, a bod camau adfer yn cael eu cymryd cyn gynted â phosibl i ofalu am y cleifion sydd wedi cael eu siomi gan y system.

“Mae angen i hyn gynnwys asesu’r mesurau a’r prosesau presennol, sy’n methu mwy na hanner y cleifion gofal llygaid risg uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydyn ni’n gwella mynediad at wasanaethau gofal llygaid, gan gynnwys agor theatrau symudol a chlinigau cymunedol newydd ledled Cymru, sy’n helpu i gynyddu nifer o triniaethau cataract sy’n cael eu cwblhau a lleihau’r angen i bobol fynd i’r ysbyty,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni hefyd yn ariannu swît dynwared offthalmoleg yng Nghymru i fodloni gofynion hyfforddeion newydd, gwella hyfforddiant a deilliannau cleifion.

“Yn ogystal, mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol Cymru y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn darparu cyfleoedd addysg arbenigol i optometryddion ac yn trin achosion llygaid mwy cymhleth y tu allan i’r ysbyty er mwyn lleihau amseroedd aros.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio er mwyn galluogi optometryddion ar y stryd fawr i reoli, monitro a thrin niferoedd cynyddol o gyflyrau’r llygaid fel bod pobol yn gallu derbyn gofal llygaid yng gynt yn y gymuned.”