Merch o Lanelli heb unrhyw gefndir teuluol amaethyddol oedd enillydd Myfyriwr y Flwyddyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.

Er hynny, mae Megan Hughes ar ben ei digon yn ennill y wobr, ac yn edrych ymlaen at ddyfodol ym myd amaeth.

Mae Megan newydd ei hastudiaethau yn y coleg, a bydd hi’n dechrau astudio gradd i fod yn filfeddyg fis Medi.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno gwobrau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol sy’n cydnabod ac yn talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u hymroddiad i amaethyddiaeth Cymru.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno i fyfyrwyr mewn seremoni wobrwyo ddydd Mawrth, Gorffennaf 25 yn Sioe Frenhinol Cymru 2023.

“Mae’n teimlo’n wych i gael fy enwebu ar gyfer y llwyddiant yma gan bawb arall yn coleg a gweld bod nhw’n gweld be ti’n gallu gwneud,” meddai Megan Hughes wrth golwg360.

“Fi’n credu byddai yn ysbrydoli myfyrwyr eraill trwy ennill y gystadleuaeth yma oherwydd does dim cefndir ffermio gyda fi.

“Mae’n dangos i bawb arall bod nhw’n gallu gwneud e os does dim cefndir ffermio gyda nhw a bod nhw’n gallu dod mewn iddo fe.

“Fi’n credu bod yna syniad, oherwydd mae pobol sydd gyda chefndir ffermio gyda ffarm ac mae’r teulu yn ffarmio felly mae gyda nhw’r ymwybyddiaeth yna ers iddynt gael eu geni [bod ganddyn nhw fantais].

“Mae mwy gyda ni i ddysgu ond mae’n dangos bod pawb yn gallu gwneud o beth bynnag.”

Adeiladwr ydy tad Megan Hughes, ac mae ei mam yn gweithio i’r Cyngor lleol, ond cafodd ei llysfam ei magu ar fferm.

“Fi wedi cael ysbrydoliaeth ganddi hi.

“Dw i’n edrych ymlaen at fynd i brifysgol i fod yn filfeddyg blwyddyn yma ond ar ôl hynny fi’n edrych ymlaen at gael ffarm fy hun fel teulu.”

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn

Mae’r Wobr Myfyriwr y Flwyddyn ar agor i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau NVQ Lefel III neu ND/NC BTEC, tystysgrif neu ddiploma C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheoli Ceffylau, Rheoli Cefn Gwlad, neu gyrsiau rheoli eraill sy’n gysylltiedig â’r tir.

Soniodd y beirniaid, Joy Smith a’r Athro Wynne Jones, am safon “eithriadol” bob ymgeisydd.

“Drwy ei gallu a’i hymroddiad, mae hi wedi ennyn parch ei chyd-fyfyrwyr a’i chyflogwyr,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“Mae Megan yn unigolyn ymrwymedig, sy’n dymuno parhau â’i hastudiaethau mewn Biowyddoniaeth Filfeddygol.”