Mae’r cyflwynydd radio Aled Hughes wedi rhannu ei daith gerdded o amgylch yr arfordir mewn cyfres o fideos, er mwyn ysbrydoli pobol i ddod i adnabod Llŷn ac Eifionydd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhwng mis Hydref diwethaf a Chwefror eleni, fe wnaeth y cyflwynydd gerdded yr 83 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Penrhyn Llŷn, o Drefor i Borthmadog.

Gan ymchwilio i’r hanes a’r chwedlau sydd ynghlwm â chymalau’r llwybr, dilynodd Aled Hughes arweinlyfr swyddogol Llwybr Arfordir Cymru a rhannu’r daith mewn fideos ar YouTube.

Wedi’i fagu yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn, roedd rhannau o’r daith yn gyfarwydd iddo ond roedd rhoi’r “jig-so ynghyd” yn agoriad llygaid iddo.

Yn ogystal â Llwybr yr Arfordir, cerddodd Llwybr y Morwyr, sy’n uno’r penrhyn rhwng Nefyn y gogledd ac Abersoch yn y de.

Yn ôl Aled Hughes, y peth mwyaf wrth ymgymryd â’r her oedd magu gwell dealltwriaeth o fro ei febyd.

“Wedyn yr awydd yna i gyfrannu at y ddealltwriaeth sydd yna o’r arfordir,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod y diwydiant arfordirol yn anweledig bron, weithiau, o ran y diwydiannau eraill sydd gennym ni – glo, llechi, mae’r rheiny yn cael sylw.

“Mae yna lyfryddiaeth, ac mae yna’n amlwg Amgueddfa Forwrol yn Abertawe, ond dw i ddim yn siŵr os ydy traddodiad arfordirol Cymru’n cael ei ddathlu fel ag y dylai o, a doeddwn i’n sicr ddim yn gwybod digon am yr ardal y cefais i ’magu.

“Yr awydd yna i ddysgu mwy, ac yn y gobaith hefyd o’i gyfleu o i gynulleidfa ehangach.

“Mae’n rhaid i fi ddiolch o waelod calon i Elfed Gruffydd, mae ei lyfrau o ar Ben Llŷn a gwefan Treftadaeth Eryri yn drysorau o ran gwybodaeth am Lŷn.

“Roeddwn i wedi cerdded pytiau o’r blaen, rhai darnau’n gyfarwydd – trwyn Llŷn, ardal Llanbedrog lle cefais i’m magu, ychydig o Nant Gwrtheyrn draw am Nefyn – ond roedd rhoi’r holl jig-so ynghyd yn agoriad llygad am sawl rheswm.”

Nefyn

Llwybr y Morwyr

Pe bai’n rhaid dewis uchafbwynt, Llwybr y Morwyr fyddai hwnnw, yn ôl Aled Hughes.

“Ar Lwybr y Morwyr roeddet ti’n gwybod dy fod yn teithio ar wythïen bwysig i longwyr oedd am ddymuno mynd o un pen o’r penrhyn i’r llall,” meddai’r cyflwynydd.

“Os oeddet ti’n byw yn Nefyn ond roedd dy long di’n hwylio i Borthmadog, mi fyddai’r capten yn gollwng yr angor yn Abersoch a fyddan nhw’n ffeindio’u ffordd wedyn.

“Roedd gen ti gyfres o lwybrau’r cyfarfod, a’i asgwrn cefn o oedd [Llwybr y Morwyr].

“Roedd dysgu am hwnnw a thorri Llŷn yn ei hanner yn rhywbeth wnes i wir fwynhau ei wneud.”

‘Drwy lygaid pobol leol’

Bydd y cyflwynydd yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar stondin Ecoamgueddfa Llŷn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth (Awst 8), lle bydd yn sôn am ei antur, a’i obaith yw y bydd defnydd i’r fideos wedi’r Brifwyl.

“Mae’r fideos yma rŵan i’r bobol leol allu eu dilyn ac efallai ddysgu mwy fel dw i wedi’i wneud,” meddai, gan ychwanegu bod bysus flecsi yn ei gwneud hi’n dipyn haws cerdded yr arfordir a bod yna fusnesau a mentrau, fel Amgueddfa Forwrol Nefyn a Phlas Glyn-y-weddw yn Llanbedrog, ar y llwybr ac ar agor drwy gydol y flwyddyn.

“Mae Pen Llŷn drwy lygaid rhywun sy’n dod yma am ychydig wythnosau yn yr haf neu’n dod i’w ail dai yn sbectol wahanol i beth sydd gan bobol leol, ac mae rhoi’r sbectol rheiny [ymlaen] a’u troi nhw’n chwyddwydr i bobol gael gweld be sydd yna yn sobor o bwysig.

“Mae ei wneud o yn y Gymraeg a gwerthu’n treftadaeth a’n diwylliant ni’n hynod o bwysig, dydy hwnnw ddim yn gorfod bod yn nhymor yr haf.

“Dim ond bod y dillad a’r offer iawn gen ti, alli di wneud Llwybr yr Arfordir a Llwybr y Morwyr unrhyw adeg o’r flwyddyn, dim ond i chdi gynllunio.”