Mae gorymdaith o Drawsfynydd i Faes yr Eisteddfod ym Moduan wedi cychwyn heddiw (dydd Mercher, Awst 2), er mwyn ymgyrchu yn erbyn ynni niwclear a thrafod buddion egni adnewyddadwy.
Mae’r orymdaith, sy’n 44 milltir i gyd, wedi’i threfnu gan Ymgyrch Cymru dros Ddiarfogi Niwclear, y Gymdeithas Atal Dinistrio Niwclear Tragwyddol a Phobl Atal Wylfa B.
Bydd nifer y gorymdeithwyr yn amrywio o safle i safle, ond mae grŵp o wyth neu naw wrth graidd y daith.
Y bwriad yw gwrthwynebu ailddatblygu gorsafoedd niwclear newydd yn fewndirol yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd ac ar safle arfordirol Wylfa yn Ynys Môn.
Bydd yr orymdaith yn dod i ben am 2yp ar ddydd Sul (Awst 6), pan fydd cynghorwyr lleol yn derbyn Datganiad Caernarfon: Ffrynt Cymreig Unedig Yn Erbyn Ynni Niwclear gan yr ymgyrchwyr.
Yna bydd trafodaeth gyhoeddus ‘Pa genedl heddwch? Rhagrith niwclear ein llywodraeth’ ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 3:30yp.
‘Mwy o bŵer i gymunedau’
“Yr hyn rydyn ni’n trio ei wneud ydi mynd i mewn i gymunedau a siarad gyda gwahanol bobol am y problemau gydag ynni niwclear a sut byddai dyfodol gwyrdd yn edrych, gydag egni sy’n wir adnewyddadwy,” meddai Dylan Lewis Rowlands, Swyddog Cyfathrebu ar gyfer Ymgyrch Cymru dros Ddiarfogi Niwclear, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n trio gwneud gweithgaredd gwahanol ym mhob cymuned, er enghraifft, heddiw pan fydden ni’n cyrraedd Blaenau bydd ymddangosiad ffilm yn trafod hanes dinasoedd yn ymwneud a niwclear.”
Bydd y daith yn parhau o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog, lle bydd stondinau yn trafod amryw o bynciau ar gyfer aelodau o’r gymuned a thwristiaid.
“I ni, bydd y ffocws wedyn yn troi at yr iaith oherwydd wrth gwrs mae’r orymdaith yma yn mynd tuag at yr Eisteddfod,” meddai.
“Felly, wrth agosáu at yr Eisteddfod bydd ein ffocws ni’n troi tuag at yr iaith a’r ffyniant yn ein cymunedau ni a sut mae ynni niwclear a militariaeth yn mynd yn erbyn ein cymunedau ni.
“Os rydyn ni wir eisiau cymunedau sy’n siarad Cymraeg mae angen i’r cymunedau yna fod yn rhai pwerus a ffordd i sicrhau pŵer yw rhoi egni ad-ddynodi, tai a phethau fel hynny yno.”
Yr ymateb yn Nhrawsfynydd
Yn ôl Dylan Lewis Rowlands, bu ymateb “diddorol” i’r rali yn Nhrawsfynydd, a bu i sawl un stopio a gofyn cwestiynau a bod yn groesawgar gyda’r criw.
“Rydw i’n meddwl bod hyn yn rhannol oherwydd bod Trawsfynydd yn gymuned sydd wir wedi gweld effaith cael atomfa ar bwys eu cymdeithas nhw,” meddai.
Dywed fod llawer o swyddi megis glanhawyr a gweinyddion ffreutur ar gael yno ond fod “yr holl swyddi oedd yn talu’n dda iawn yn mynd i bobol o du allan i’r gymuned.”
Felly, y pryder oedd nad oedd pŵer nag arian yn mynd yn ôl i mewn i’r gymuned leol, meddai.
Un datrysiad posib, yn ôl Dylan Lewis Rowlands, fyddai i gymunedau ddod at ei gilydd er mwyn casglu arian i fod yn gydberchnogion ar dyrbinau gwynt sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Yna, byddai modd defnyddio’r egni o fewn y gymuned ac ailfuddsoddi unrhyw elw o werthu’r egni ychwanegol yn lleol.
Llwyddiant llynedd
Cafodd gorymdaith debyg ei drefnu rhwng Trawsfynydd a safle Wylfa yn Ynys Môn y llynedd.
Dywed Dylan Lewis Rowlands fod ymateb da wedi bod wrth iddyn nhw siarad gyda chynghorwyr o Wynedd ac Ynys Môn yn ystod y daith a’u bod yn gobeithio cael ymateb tebyg gan drigolion eleni.
“Rydym wedi gweld ein bod ni’n cael rhywfaint o gefnogaeth wleidyddol, felly mynd i’r cymunedau a siarad gyda phobol arferol am fuddiannau egni adnewyddadwy yw’r cam nesaf” meddai.
Felly, beth yw’r cynlluniau wedi i’r orymdaith gyrraedd Boduan?
“Yn gyntaf, byddwn ni’n mynd i mewn i’r gymuned ei hun i siarad gyda phobol ond, wrth gwrs, wedyn byddwn ni’n gorymdeithio i’r Eisteddfod i ddangos pwy ydyn ni a beth ydyn ni’n sefyll amdano,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio dangos sut bod y frwydr dros ynni niwclear yr un frwydr ag yr ydyn ni’n ei brwydro dros yr iaith.”