Mae Cyngor Ceredigion wedi rhoi cydnabyddiaeth i aelod hirsefydlog o un o’u pwyllgorau, ar ôl iddi gamu o’r neilltu ar ôl degawd.

Cafodd Caroline White, sy’n Diwtor Sgiliau Astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei phenodi’n Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau a Moeseg fis Awst 2013.

Cafodd ei hethol yn is-gadeirydd fis Chwefror 2018, ac yn gadeirydd yn 2021.

Bellach, mae hi’n edrych ymlaen at ganolbwyntio ar bethau eraill wrth i Gail Storr ei holynu, gan deimlo ei bod hi wedi helpu i “hwyluso a bod yn rhan” o drafodaethau’r Cyngor.

“Byddaf yn gallu canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr prifysgol niwrowahanol a, gobeithio, dod o hyd i’r amser ar gyfer garddio, gartref ac yng ngerddi muriog Llanerchaeron,” meddai.

“Rwy’n gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth gan ei fod yn adlewyrchiad o’r gwerth a roddir i waith Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Ceredigion.”

Yn 2018, cynhaliodd Cyngor Sir Ceredigion Gynhadledd Safonau Cymru ar y cyd â Chyngor Sir Powys yn Aberystwyth.

“Roedd yn werth chweil helpu i hwyluso a bod yn rhan o’r drafodaeth ar ddulliau a syniadau wrth gymhwyso’r Cod Ymddygiad mewn gwasanaethau cyhoeddus,” meddai wedyn.

Degawd o waith

Mae’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a Caryl Davies, cadeirydd newydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau, yn teimlo bod Caroline White wedi gwneud deng mlynedd o waith da a bod y Cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio ag aelodau newydd.

“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi elwa ar ddegawd o gyngor ac ystyriaethau a ddarparwyd gan Caroline,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies.

“Rydym yn croesawu aelodau newydd y pwyllgor a bydd eu mewnbwn i swyddogaeth y Pwyllgor yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Caroline am roi ei hamser i gyfrannu at y Pwyllgor ac am ei gwaith diflino,” meddai Caryl Davies.

“Hoffem hefyd groesawu ein haelod newydd, Gail Storr.”

Rôl y pwyllgor

Mae Pwyllgorau Safonau awdurdodau lleol yn bodoli i hyrwyddo a diogelu’r safonau mae’r cyhoedd yn eu disgwyl gan eu cynrychiolwyr etholedig.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys pum aelod annibynnol, dau gynghorydd sir, a dau gynghorydd tref neu gymuned.

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter, ac mae modd dod o hyd i adroddiadau ar gyfer y Pwyllgor Moeseg a Safonau, gan gynnwys ceisiadau am oddefeb ar wefan y Cyngor: Strwythur y Pwyllgor.